Ewch i’r prif gynnwys

Stori Muhammad

Mae Muhammad Nouman Nafees yn fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar seiberddiogelwch - yn fwy penodol, atal ymosodiadau ar seilwaith cenedlaethol critigol.

Isod mae'n sôn am ei brofiad:

Pam astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?

Fe symudais i'r DU saith mlynedd yn ôl o Lahore ym Mhacistan lle cefais fy magu. Roeddwn wedi astudio cyfrifiadureg yn y brifysgol ac roedd gen i ddiddordeb arbennig yn y maes hwn felly pan welais y cyfle PhD wedi'i ariannu yng Nghaerdydd fe wnes i gais yn syth.  Mae wedi bod yn daith anhygoel, nid yn unig oherwydd ansawdd yr ymchwil y maent yn ei wneud yma, ond oherwydd y cyfleusterau, y staff, a’r oruchwyliaeth a gynigir – yn fy achos i mae hynny dan ofal Dr Neetesh Saxena a'r Athro Pete Burnap. Mae Caerdydd, hefyd, yn lle anhygoel i fyw ynddo – oherwydd y cyfan mae’r ddinas yn ei gynnig, ac mae ei lleoliad yn golygu ei bod yn hawdd iawn cyrraedd rhannau eraill o'r DU. Cwta ddwy awr yw hi i Lundain ar y trên.

Disgrifiwch eich profiad yn yr Ysgol

Mae help ac anogaeth y tîm yn fy ysgogi’n fawr iawn ac rydym yn gweithio gyda'r efelychiadau ac offer meinciau arbrofi gorau yn y cyfleusterau newydd yn Abacws. Mae gan yr Ysgol gysylltiadau â phrifysgolion ledled y byd hefyd – yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi gwaith ar y cyd â'r athrawon o Brifysgol California a Sefydliad Technoleg Georgia.

Cydnabyddir y Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch mae'r Athro Burnap yn ei harwain yn Ganolfan Ragoriaeth gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg felly mae'n teimlo'n fraint cael bod yn rhan ohoni. Mae'r diwylliant yn gefnogol, ac mae hefyd yn gwneud lle i fyfyrwyr ddilyn eu harchwiliadau eu hunain. Wedi i mi gyhoeddi un o fy astudiaethau, talodd y brifysgol i mi deithio i Gynhadledd Ryngwladol EEE yn Singapore, a chyflwyno’r gwaith yno, ym mis Hydref y llynedd [Hydref 22], cynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar Gyfathrebu, Rheoli a Thechnolegau Cyfrifiadura ar gyfer Gridiau Clyfar. Testun y papur a gyflwynais oedd diogelwch gridiau clyfar a sut i'w diogelu gyda chymorth dysgu peirianyddol a dysgu dwfn. Yn fuan wedyn fe wnes i gyflwyno peth o fy ngwaith ar-lein yng Nghynhadledd ACM ar Ddiogelwch Cyfrifiaduron a Chyfathrebu (CCS) a gynhaliwyd yn Los Angeles ym mis Tachwedd 2022. Roedd yn hynod gyffrous cael adborth gan bobl o’r diwydiant a chan weithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr eraill.

Y camau nesaf

Fy nyhead yw aros yng Nghaerdydd a gwneud ymchwil ôl-ddoethurol gyda Dr. Neetesh a thîm yr Athro Burnap.