Graddau cydanrhydedd
Together with other academic schools we offer a number of degrees designed to help you develop and apply core skills and knowledge across disciplines and give you the opportunity to study cutting edge topics in each area.
Ynghyd ag ysgolion academaidd eraill, rydym yn cynnig nifer o raddau a ddyluniwyd i’ch helpu i ddatblygu a defnyddio sgiliau a gwybodaeth greiddiol ar draws disgyblaethau a rhoi’r cyfle i chi astudio pynciau blaenllaw ym mhob maes.
Newyddiaduraeth Gyfrifiadurol a Data
Ar y cyd ag Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, rydym yn cynnig y radd arloesol, nodedig ac uchel ei hansawdd hon. Mae’r MSc amser llawn hon yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth a sgiliau drwy ddysgu ar sail ymchwil ym maes newyddiaduraeth ddigidol, gwyddor data, rhaglenni cyfrifiaduron a datblygiadau digidol.
Nid oes angen profiad blaenorol o gyfrifiadura. Mae’r radd hon yn agored i raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth.
Enw'r radd |
---|
MSc Newyddiaduraeth Gyfrifiadurol a Data |
Gwyddor Data a Dadansoddeg
Byddwch yn astudio pynciau sylfaenol ym maes gwyddorau data a dadansoddeg yn yr Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Bydd y rhain yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau trin ac echdynnu data, sgiliau rhaglennu, sgiliau dysgu peiriannol a gwybodeg, sgiliau datrys problemau a modelu. Mae’r rhain yn addas ar gyfer swyddi yn y sectorau hyn neu astudiaethau pellach drwy ymchwil.
Enw'r radd |
---|
MSc Gwyddorau Data a Dadansoddi |
Dadansoddi Data i’r Llywodraeth
Mae'r MSc mewn Dadansoddi Data i'r Llywodraeth wedi’i llunio i ddiwallu anghenion hyfforddiant ac addysg barhaus y rhai sy'n gweithio gyda data mewn Llywodraeth. Bydd yn datblygu eich dealltwriaeth ddamcaniaethol, eich profiad ymarferol o wyddor data a’ch sgiliau dadansoddeg gan ganolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio dulliau dadansoddi data mewn llywodraeth a gwasanaeth cyhoeddus.
Enw'r radd |
---|
MSc Dadansoddi Data i'r Llywodraeth |
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Mae'n bleser gennym gynnig pedwar modiwl craidd o MSc Dadansoddi Data i’r Llywodraeth, sydd ar gael i astudio ar sail unigol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (CPD).
Rydym wedi datblygu'r rhaglen hon ar y cyd â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Mae’r modiwlau ar gael i weithwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol a chyrff y sector cyhoeddus yn y DU yn unig.