Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-raddedig a Addysgir

Abacws Specialist degrees

Mae ymchwil ym maes cyfrifiadureg yn cael effaith gymdeithasol sylweddol ac uniongyrchol, sy’n gwneud addysg ôl-raddedig yn y ddisgyblaeth hon yn ddewis ysbrydoledig.

Graddau arbenigol

Yn y farchnad fyd-eang hynod gystadleuol sydd ohoni, gall ein graddau arbenigol eich rhoi ben ac ysgwydd uwchben ymgeiswyr eraill, gan y byddwch chi wedi dysgu’r wybodaeth arbenigol a’r sgiliau technegol.

Graddau trosi

Mae ein graddau trosi – rhai gyda’r opsiwn o leoliad gwaith – wedi’u cynllunio ar gyfer graddedigion sydd ddim o gefndir ym maes cyfrifiadura, sydd am ddatblygu’r sgiliau technegol, dadansoddol a phroffesiynol sydd eu hangen ar gyfer rôl ym maes cyfrifiadura neu beirianneg meddalwedd.

Graddau cydanrhydedd

Ynghyd ag ysgolion academaidd eraill, rydym yn cynnig nifer o raddau a ddyluniwyd i’ch helpu i ddatblygu a defnyddio sgiliau a gwybodaeth greiddiol ar draws disgyblaethau a rhoi’r cyfle i chi astudio pynciau blaenllaw ym mhob maes.

Enw’r radd
MSc Newyddiaduraeth Gyfrifiadurol a Data
MSc Gwyddorau Data a Dadansoddi
MSc Dadansoddi Data i’r Llywodraeth

Gosod

Ni yw un ymhlith yr unig ysgolion yn y DU sy’n cynnig cyfleoedd am leoliad gwaith i ôl-raddedigion ym maes cyfrifiadureg. Mae nifer o’n rhaglenni yn rhoi’r opsiwn i chi ymgymryd â lleoliad gwaith 7-12 mis o hyd i’ch helpu i sicrhau mantais gystadleuol. Bydd y profiad ymarferol hwn nid yn unig yn rhoi hwb i’ch hyder, ond hefyd yn eich helpu i ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol. Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio eich sgiliau newydd yn y byd go iawn.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych chi ymholiad, cysylltwch â:

Cyrsiau ôl-raddedig a addysgir

Cyfleoedd lleoliad ôl-raddedig