Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg yn darparu nifer o ysgoloriaethau PhD a ariennir yn llawn ar gyfer myfyrwyr y DU, yr UE a thramor bob blwyddyn.

Arbenigwch mewn un o'n meysydd ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan weithio gydag offer adnoddau cyfrifiadurol eithriadol a staff o safon uchel. Ewch i'n tudalennau ymchwil i gael gwybod am grwpiau a phrosiectau ymchwil.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaethau PhD yw 13 Mawrth. Rydym yn rhagweld y bydd y broses o lunio rhestr fer a chyfweld yn cael ei chynnal ym mis Ebrill.

Gwneud cais

Gofynion mynediad

Disgwylir i ymgeiswyr gael gradd israddedig 2:1 Anrhydedd neu radd meistr, mewn disgyblaeth wyddonol neu dechnegol berthnasol, megis cyfrifiadureg neu fathemateg. Mae mathemateg i lefel gradd (neu gymhwyster cyfwerth) yn ofynnol ar gyfer ymchwil mewn rhai meysydd prosiect.

Gofynion Saesneg

Bydd angen i chi hefyd ddangos eich bod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol. Mae manylion am y broses ymgeisio ar gael ar y dudalen canllawiau ymgeisio. Ar ôl paratoi eich cais, gallwch ei gyflwyno gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein, y gallwch ei defnyddio drwy fynd i dudalen y cwrs a dewis 'Gwneud cais nawr'.

Mae pedwar pwynt mynediad i'r cwrs PhD. Gallwch gyflwyno'ch cais ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a nodi pryd yr hoffech ddechrau eich cwrs. Cyfeiriwch at y dudalen ysgoloriaethau a phrosiectau PhD am derfynau amser ar gyfleoedd ysgoloriaethau penodol.

Pwyntiau mynediad

Pwynt mynediad

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Hydref

31 Mai

Ionawr

31 Awst

Ebrill

30 Tachwedd

Gorffennaf

28 Chwefror

Caiff ceisiadau eu prosesu'n ffurfiol gan yr Ysgol pan fydd y gwaith papur llawn wedi'i dderbyn a'i brosesu gan gofrestrfa Prifysgol Caerdydd. Rydym yn eich cynghori'n gryf i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Mae gan Brifysgol Caerdydd bolisi cyfle cyfartal ac mae'n annog ceisiadau gan bobl ag anableddau. Fe'ch gwahoddir i ddatgan eich anabledd i'n tiwtor derbyn myfyrwyr PhD yn dg.comsc.pgroperations@caerdydd.ac.uk er mwyn trafod trefniadau addas ar gyfer eich astudiaethau PhD yn gynnar. Gweler hefyd bolisi'r brifysgol a chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Dod o hyd i oruchwyliwr posibl

Dylech nodi darpar oruchwyliwr a chysylltu â nhw os gwelwch fod eu diddordebau'n cyfateb i'r ymchwil yr ydych am ei wneud. Mae'n well os ydych yn cynnig rhywbeth pendant a phenodol. Edrychwch ar y tudalennau ymchwil i gael trosolwg o ddiddordebau ymchwil ein staff academaidd ac ymchwil.  Gallwch hefyd gael gwybod am ddiddordebau ymchwil staff yr Ysgol drwy fynd i'n tudalennau staff.

Ysgrifennwch eu henw yn eich cais ar ôl trafod y pwnc PhD gyda nhw. Mae'n bwysig eich bod yn trafod eich cynnig gyda hwy yn y lle cyntaf ac nad ydych yn rhoi eu henw yn unig.

Nodwch mai dim ond ar ôl i chi wneud cais ffurfiol y byddwn yn ystyried eich cais, a bod yr Ysgol wedi derbyn eich cais.

Ysgoloriaethau a ariennir

Mae Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd yn cynnig nifer o ysgoloriaethau cystadleuol bob blwyddyn. Fel arfer, bydd cyllid yn talu am gostau blynyddol yn unol â chyfradd UKRI, yn ogystal â ffioedd dysgu ôl-raddedig yn ôl y gyfradd gartref.  Mae nifer fach o ysgoloriaethau rhyngwladol ar gael hefyd.

Gallwch chwilio am ysgoloriaethau PhD ar dudalennau gwe'r brifysgol, yn ogystal ag ar wefan FindaPhD.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaethau PhD ym 2024 yw 6 Mai 2024. Rydym yn rhagweld y bydd y broses o lunio rhestr fer a chyfweld yn cael ei chynnal ym mis Mehefin 2024.

Cyfweliadau

Ar ôl i chi gyflwyno cais, efallai y cewch eich gwahodd am gyfweliad. Cynhelir cyfweliadau fel arfer drwy Skype.
Mae'r cyfweliad fel arfer yn cynnwys rhoi cyflwyniad am un o'ch prosiectau blaenorol neu drafod papurau y gofynnwyd i chi eu darllen gan eich darpar oruchwyliwr. Mae'r cyfweliad hefyd yn gyfle i chi ddysgu mwy am y diddordebau ymchwil posibl i oruchwylwyr a'i dîm. Mae rhai cwestiynau yr hoffech eu gofyn i'ch darpar oruchwyliwr yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • a fyddwn i'n gweithio'n unigol yn bennaf neu fel aelod o dîm
  • pa brosiectau y mae eich tîm yn gweithio arnynt nawr
  • sut ydych chi'n rhyngweithio â'ch myfyrwyr ymchwil – e.e. a yw cyfarfodydd yn ad-hoc, ar adegau rheolaidd, un i un, neu’n gyfarfodydd grŵp

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni.

Ymchwil ôl-raddedig Cyfrifiadureg