Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau

Mae ein graddau'n cael eu llywio gan yr ymchwil diweddaraf yn ein Hysgol a gydnabyddir yn rhyngwladol ac a addysgir gan arbenigwyr yn eu maes.

Rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein graddau'n rheolaidd i sicrhau bod y cynnwys yn gyfredol ac yn berthnasol. Mae pwyslais sylweddol ar gyflogadwyedd. Rydym wedi sefydlu Bwrdd Ymgynghorol Allanol o aelodau llwyddiannus o feysydd diwydiant a'r byd academaidd sy'n rhoi arweiniad, mewnwelediad ac adborth ynglŷn â'n dysgu a'n haddysgu.

Israddedigion

Israddedigion

Addysgu ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr cenedlaethol a rhyngwladol ym maes deinamig cyfrifiadureg.

Ôl-raddedig a Addysgir

Ôl-raddedig a Addysgir

Mae myfyrwyr yn gweithio gyda staff sydd ar flaen y gad yng ngwaith ymchwil eu disgyblaethau, a chanddyn nhw fynediad at gyfleusterau ac offer pwrpasol.

Ymchwil ôl-raddedig

Ymchwil ôl-raddedig

Arbenigwch mewn un o'n meysydd ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan weithio gydag offer adnoddau cyfrifiadurol eithriadol a staff o safon uchel.

Rhyngwladol

Rhyngwladol

Rydym yn falch o ddarparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau, cefndiroedd a dyheadau graddedigion o’r DU a gwledydd tramor.

BCS - Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG

BCS The Charted Institute for IT

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) i sicrhau bod ein graddau yn berthnasol i’r gofynion diweddaraf o’r diwydiant. Mae hyn yn gymeradwyaeth hynod bwysig i ddarpar gyflogwyr.