Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a datblygiad

Gallwch chi weld ein swyddi gwag cyfredol a chael gwybodaeth am sut i wneud cais ar Safle Swyddi Prifysgol Caerdydd.

Dyrchafiadau academaidd

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfleoedd i ddyrchafu staff ar y rhan fwyaf o lwybrau academaidd. Mae rhagor o fanylion ar gael yn ein Polisi Dyrchafiadau Academaidd.

Sesiynau datblygu Gwasanaethau Proffesiynol

Mae'r Ysgol yn cefnogi twf a datblygiad proffesiynol ein staff o fewn y gwasanaethau proffesiynol.

Yn ogystal â’r sesiynau hyfforddi a datblygu a gynigir gan Brifysgol Caerdydd, mae sesiynau datblygu yn ein Hysgol wedi’u cynllunio i roi’r adnoddau, y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol i ffynnu yn eu rolau a datblygu eu gyrfaoedd.

Mae digwyddiadau yn y gorffennol wedi cynnwys hyfforddiant ar ysgrifennu CV, cyngor ar greu ceisiadau am swyddi, a sut i ddatblygu sgiliau cyfweliad da. Mae’r Ysgol yn annog aelodau staff i siarad â’u rheolwyr llinell am eu datblygiad gyrfaol i nodi’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.