Gweithio yma
Ymunwch â’n Hysgol fywiog, deinamig, a arweinir gan ymchwil. Mae ganddi enw da hirsefydlog yn rhyngwladol am weithgareddau ymchwil cymhwysol.
Swyddi gwag
Amdanom ni
Mae'r galw am addysg mewn Cyfrifiadureg yn parhau i dyfu'n gyflym. Ledled y DU, dyma'r pwnc gradd sy'n tyfu gyflymaf ar lefel israddedig a'r pwnc TGAU sy'n tyfu gyflymaf ar hyn o bryd. Rydyn ni wedi ymateb i’r newidiadau hyn yn y farchnad drwy barhau i ehangu niferoedd ein myfyrwyr a staff, gan gyflwyno cyfleoedd cyffrous i dalent newydd gael ymuno â’n tîm.
Mae Prifysgol Caerdydd mewn prifddinas hardd a ffyniannus, a dyma'r sefydliad addysg uwch mwyaf yng Nghymru. Rydyn ni’n cyflogi mwy na 7,000 o staff ledled y Brifysgol, ac mae pob un ohonyn nhw’n chwarae rhan bwysig wrth gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol ac arloesol.
Wrth weithio yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, byddwch chi’n cael y cyfle i ffynnu mewn amgylchedd deinamig tra'n mwynhau manteision cystadleuol a chyfleoedd i ddatblygu yn eich gyrfa.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar ymroddiad, egni a brwdfrydedd y bobl sy'n gweithio gyda ni. Rydyn ni felly wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein staff a’u lles – gan gynnig cyflogau cystadleuol, lwfans gwyliau hael, cyfleoedd gweithio hyblyg, a chyfleusterau rhagorol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob un o’n arferion a’n gweithgareddau. Ein nod yw sefydlu diwylliant cynhwysol sy'n seiliedig ar urddas, cwrteisi a pharch.
Ar hyn o bryd, mae gan Brifysgol Caerdydd ddyfarniad Efydd Athena SWAN, sy’n cydnabod ein gwaith parhaus i fynd i'r afael â bylchau rhwng y rhywiau.
Tystebau staff:
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych chi ymholiad, cysylltwch â: