Ewch i’r prif gynnwys

Ein stori

Un o dwf a newid yw stori ein hysgol.

Ym 1971, cafodd yr Ysgol Mathemateg Cyfrifiadura ei sefydlu, gyda charfan o 47 o fyfyrwyr, a’i harwain gan bennaeth cyntaf yr ysgol, sef yr Athro Bob Churchouse.

Yr Athro Churchouse, a gafodd ei addysgu gan Alan Turing wrth astudio ar gyfer ei radd israddedig ym Mhrifysgol Victoria Manceinion, oedd Cyfarwyddwr Canolfan Gyfrifiadurol Prifysgol Caerdydd hefyd am gyfnod byr.

I ddechrau, roedd Mathemateg Cyfrifiadura’n cael ei gynnig yn hanner pwnc – i’w gyfuno ag Ystadegau, Mathemateg Gymhwysol neu Ffiseg Cyflwr Solet.

Daeth Cyfrifiadura’n bwnc ynddo'i hun pan gyflwynwyd y rhaglen radd Systemau Cyfrifiadurol gyda Gwyddoniaeth Gymhwysol, gan ledu’r ffordd i ddatblygu’r rhestr helaeth o gyrsiau rydyn ni’n eu cynnig ar hyn o bryd.

Mae’r addysgu yn yr ysgol wastad wedi cyfuno arloesedd a dyfeisgarwch. Dechreuodd ein staff cynharaf, gyda chyfrifiaduron VAX gan DEC ac yna weithfannau SUN at eu defnydd, ar daith o gyflwyno gwybodaeth ym maes Cyfrifiadura, a oedd yn esblygu'n chwim. Un ymgais a oedd yn arbennig o ddyfeisgar oedd sefydlu ystod y Brifysgol o gyfeiriadau IP – carreg filltir a gyflawnwyd oherwydd ymdrechion cydweithredol y staff.

Heddiw, Dr Kathryn Jones yw Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, ac rydyn ni bellach yn gartref i garfan o fwy na 1,300 o fyfyrwyr ar draws ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir, yn ogystal â 200 o gydweithwyr o bob cwr o'r byd.

Yn union fel y gwnaethon ni yn ein dyddiau cynharaf, rydyn ni’n ymfalchïo yn ein haddysgu a'n hymchwil arloesol ar draws amrywiaeth eang o feysydd pwnc, gan gael effaith ar bob agwedd ar gymdeithas, boed y llywodraeth a diogelwch neu ofal iechyd a'r celfyddydau.