Ein lleoliad
Dinas ysgogol, cosmopolitan a chlos ag oddeutu 350,000 o bobl yw Caerdydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae datblygiadau mawr wedi denu cymuned fusnes gynyddol, gan gynnwys nifer gynyddol o gwmnïau technoleg.
Abacws
Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg wedi’i lleoli yn yr adeilad Abacws newydd a adeiladwyd yn bwrpasol. Mae yng nghanol y Brifysgol, nesaf at Undeb y Myfyrwyr a gerllaw’r Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr newydd a'r Campws Arloesedd. Nid yw’n bell iawn o ganol y dref. Mae wrth ymyl gorsaf rheilffordd Cathays, ac mae amrywiaeth o lety myfyrwyr gerllaw. Mwynhewch daith o amgylch Abacws ar YouTube.
Abacws
Ffordd Senghennydd
Cathays
CF24 4AG
Rhagor o wybodaeth am sut i’n cyrraedd mewn car, ar y trên neu’r bws neu mewn awyren.
Adeilad Julian Hodge
Mae ein cyrsiau Peirianneg Meddalwedd yn cael eu haddysgu yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn Adeilad Julian Hodge, sydd ddeg munud i ffwrdd ar droed o Abacws.
Adeilad Julian Hodge
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU
Adeiladau'r Frenhines
Mae ein graddau Meistr yn cael eu haddysgu yn Adeiladau'r Frenhines yn bennaf, sydd ger gorsafoedd trên, siopau a phreswylfeydd myfyrwyr yng nghanol dinas Caerdydd. Mae ein rhaglenni ôl-raddedig a addysgir yn cael eu cyflwyno yn bennaf yn Ystafell Turing, sydd newydd ei hadnewyddu, a'n mannau tywod sy'n cynnwys cyfleusterau gwych i annog cydweithio arloesol a chydweithredol.
Adeiladau'r Frenhines
5 The Parade
Caerdydd
CF24 3AA
Gallwch weld map o'n campws sy'n nodi lleoliad adeiladau lle mae'n ysgolion academaidd, llety a gwasanaethau eraill.