Yr Academi Meddalwedd Genedlaethol
Canolfan ar gyfer rhagoriaeth ym maes peirianneg meddalwedd yng Nghymru.
Sefydlwyd yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn 2015 fel partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac arweinwyr yn y diwydiant. Ei nod yw rhoi sylw i'r diffyg peirianwyr meddalwedd cymwysedig, sy’n barod ar gyfer y diwydiant, drwy gynhyrchu graddedigion gyda phrofiad diwydiannol y bydd galw amdanynt ac a fydd yn cael eu hadnabod fel arweinwyr yn eu maes.
Mae'r Academi yn cynnig gradd israddedig arloesol mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol sy'n canolbwyntio ar y sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol sydd eu hangen i fod yn beiriannydd meddalwedd masnachol effeithiol o'r cychwyn cyntaf. Mae’r academi hefyd yn cynnig MSc Peirianneg Meddalwedd sydd wedi’i dylunio ar gyfer graddedigion o gefndiroedd amrywiol sydd â rhywfaint o brofiad o raglennu er mwyn eu galluogi i ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol i fod yn beiriannydd meddalwedd masnachol.
Mae nodweddion allweddol yr Academi yn cynnwys ffocws ar arferion gweithio yn y diwydiant, amgylchedd gwaith bywiog a ffocws ar heriau 'byd go iawn'.
Gweledigaeth yr academi yw cyflwyno graddau mewn peirianneg meddalwedd sy'n canolbwyntio ar y diwydiant. Bwriad y graddau hyn fydd rhoi i fyfyrwyr brofiad academaidd o dechnolegau perthnasol a blaengar o fewn fframwaith diwydiannol, gan ddefnyddio adnoddau a thechnegau sydd wedi ennill eu plwyf yn y diwydiant i hwyluso mynediad i'r farchnad waith.
Cysylltu
Darllenwch am y radd BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol a'r MSc Peirianneg Meddalwedd neu cysylltwch â'r tîm israddedig yn yr Ysgol i gael rhagor o wybodaeth: