Esther Pearson
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/2707036/EP.png?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Roedd Esther yn chwilio am gwrs oedd yn cynnig cyflogadwyedd, ac oedd yn golygu gwneud rhywbeth roedd hi'n ei garu. Isod, mae hi’n adrodd ei phrofiad yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
“Roedd gwneud rhaglen meistr am flwyddyn yn yr Ysgol Cyfrifiadureg yn fy ysbrydoli a newidiodd fy mywyd. Yn dilyn hynny, dechreuais i swydd wych sef bod yn beiriannydd gydag Airbus yng Nghasnewydd...”
Pam dewisoch chi astudio MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg
Roeddwn i wedi gweithio mewn banc cyn mynd i'r brifysgol, a dim ond pan oeddwn i'n 25 oed y dechreuais i astudio a chwilio am gwrs a oedd yn cynnig cyflogadwyedd, dilyniant ac amrywiaeth. Mae Cyfrifiadureg yn berthnasol i bob sector a phob rhan o'n bywyd felly dyma fentro arni. Ar ôl graddio roeddwn i’n edrych ar opsiynau ôl-raddedig, ac ro’n i’n ansicr o ran beth fyddai dyfodol y rhain.
Beth ddysgoch chi?
Er fy mod i wedi ymdrin â seiberddiogelwch pan oeddwn i’n fyfyriwr israddedig, roedd manylder y rhaglen meistr, a oedd yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol mewn pynciau megis fforenseg a meddalwedd faleisus a chryptograffeg yn arbennig iawn. Mae gennych chi’r cyfle i wneud ymchwil ar y cyd â phartneriaid ym myd diwydiant a chewch oruchwyliwr yn y Brifysgol - a cheir ymchwilwyr seiberddiogelwch a gydnabyddir yn rhyngwladol yn yr Ysgol.
I ble aethoch chi wedyn?
I Airbus i fod yn beiriannydd graddedig. Roedd y cwrs Meistr yn gwrs anodd a heriol ond nid oedd yn hir cyn imi wirioni arno. Roedd wedi fy ysbrydoli heb os nac oni bai. Prin y gallwn i gredu bod hyn yn rhywbeth y gallwn i ei wneud bob dydd o hyn allan ac felly roedd glanio yng Nghasnewydd gydag Airbus yn anhygoel. Cyn imi hyd yn oed ddechrau yn fy swydd newydd, ces i groeso cynnes iawn. Dyrannwyd cyfaill imi a gysylltodd â mi, yn ogystal â nifer o bobl eraill a ddywedodd wrtha i y dylwn i gysylltu os oedd gen i gwestiynau. Nid oedd yn cymryd llawer o amser imi ymgartrefu ar ôl imi ddechrau, ac i deimlo’n aelod gwerthfawr o'r tîm.
Dywedwch ragor wrthon ni
Mae canran uwch o fenywod na'r cyfartaledd ar y cwrs meistr, ac mae’r ganran yn mynd yn fwy ac yn hynod bwysig i'r Brifysgol. Mae hyn yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth ond nid symboleiddiaeth. Nid sgiliau technegol yw'r unig sgiliau sydd eu hangen yn y maes hwn. Mae'r sgiliau’n rhai creadigol ac yn canolbwyntio ar bobl. Mae'n ymwneud â deall y gynulleidfa, y defnyddiwr, ac mae gweithio gyda chyfuniad amrywiol o bobl yn gwella hynny. Roedd fy nhraethawd hir yn canolbwyntio ar sut rydyn ni’n ysgogi pobl i fod yn ymwybodol o’r seiberfyd a datblygu arferion sy’n seiberddiogel. Roedd yn hynod ddiddorol. Ond mae hefyd yn amlwg y byddwch chi’n eithrio hanner eich cwsmeriaid os mai dynion yw'r holl bobl sy'n creu cynnyrch neu systemau.
Yn Airbus rwy'n rhan o dîm sy'n canolbwyntio ar ymchwilio i atebion newydd ac arloesol a all barhau yn y dyfodol yn ogystal â datblygu’r rhain. Gan fod bygythiadau seiber yn ehangu’n ddyddiol bron iawn, mae'n bwysig ein bod yn gallu rhagweld y risgiau hyn, ac mae wedi bod yn waith hynod ddiddorol. Gan fy mod yn rhan o dîm sy'n wrywaidd yn bennaf, rwy'n ffodus o allu gweithio ochr yn ochr â llawer o fenywod gwych sy'n fodelau rôl rhagorol. Dw i erioed wedi teimlo nad ydw i’n perthyn yno. Bydda i bob amser yn teimlo'n ddigon cyfforddus i allu gwneud awgrym neu gynnig rhywfaint o fewnbwn, heb ofni cael fy mychanu neu na fydd pobl yn fy nghymryd o ddifrif. Rwy'n credu bod diwylliant a gwerthoedd y cwmni yn helpu llawer yn yr achos hwn ac mae Cynhwysiant ac Amrywiaeth yn rhan o ffordd Airbus o weithio.