Amdanom ni
Rydyn ni'n ysgol a arweinir gan ymchwil yn un o brif brifysgolion y DU ac yn cynnig cymysgedd cyfoethog o gyrsiau perthnasol yn y byd go iawn.
Wedi’i lleoli mewn cyfleusterau trawiadol o’r radd flaenaf yng nghanol y brifddinas, mae’r Ysgol yn gweithio gyda dros 100 o bartneriaid academaidd a diwydiannol yn y DU a thramor. Mae ei hymchwil flaengar yn parhau i ddenu cyllid gwerth miliynau o bunnoedd.
Mae ein cyfleusterau gwych i fyfyrwyr - gan gynnwys y labordy cyfrifiadurol a seiberddiogelwch, Makerspace a’r gweithdy TG, darlithfeydd a mannau cydweithio - yn gweddu i ehangder y profiad y mae'r Ysgol yn ei ddarparu. Bydd myfyrwyr yn graddio gan ddeall systemau cyfrifiadurol, rhwydweithiau a rhaglenni ar lefel ddofn, a chyda gwybodaeth am sut maen nhw'n trawsnewid gwyddoniaeth, busnes, diwylliant a phob agwedd ar fywyd. Mae mwy na naw o bob deg o raddedigion mewn cyflogaeth medrus iawn 15 mis ar ôl graddio.
Rydym yn croesawu staff, ymchwilwyr a myfyrwyr ôl-raddedig sydd am fod yn rhan o’r stori hon a myfyrwyr sydd ag awydd am y maes astudio hwn a phrosiectau diddorol sy’n edrych tuag allan ynghyd ag awydd i weld sut y gall yr hyn y maent yn ei ddysgu effeithio ar y byd go iawn. Mae ein rhaglen ddiweddaraf o gefnogaeth academaidd a chymdeithasol i fyfyrwyr newydd yn cynnig cynlluniau mentora sy'n paru myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn i'w cymheiriaid yn y flwyddyn gyntaf. Mae ein cynllun llysgennad STEM yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr fynd allan i ysgolion i annog a chefnogi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cyfrifiadurol a pheirianwyr meddalwedd.
Mae gan fyfyrwyr ddewis o gyrsiau israddedig tair, pedair a phum mlynedd, gydag opsiynau i gyd-fynd â'u huchelgeisiau, gan gynnwys y cyfle i fwynhau blwyddyn gyflogedig sy'n gwella cyflogadwyedd mewn diwydiant, i gymryd blwyddyn i astudio mewn prifysgol dramor, a/neu gyfuno astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig mewn un cwrs. Ac oherwydd bod yr hyn y mae'n ei ddysgu yn berthnasol i bob agwedd ar gymdeithas, rydym, bob blwyddyn, yn falch o weld ein myfyrwyr yn graddio gyda'r sgiliau ar gyfer gyrfaoedd mewn peirianneg, addysgu, gofal iechyd, y gyfraith, rheoli, cyllid a mwy o ganlyniad.
Mae ein hymchwil yn cael effaith go iawn ar draws nifer o feysydd amrywiol.