Rydym yn ysgol a arweinir gan ymchwil gydag enw da am addysgu a chyrsiau rhagorol sydd ag effaith yn y byd go iawn.
Rydym wedi'n lleoli ar draws pedwar safle, sy'n cynnwys mwy na 2000 o fyfyrwyr a 190 o staff arbenigol ar draws ymchwil, addysgu a gwasanaethau proffesiynol. Ein prif gartref yw Abacws, cyfleuster o'r radd flaenaf yng nghanol y ddinas.
Rydyn ni’n gweithio gyda'n gilydd tuag at ddyfodol gwell i bawb a chredwn y gallwn ni gyflawni pethau arbennig drwy gydweithio ac amrywiaeth barn. Mae 'Ein dyfodol, gyda'n gilydd' yn cadarnhau ein taith hyd at 2035.