Siarter Ieuenctid
Fe wnaethon ni ddatblygu’r Siarter Ieuenctid drwy weithio gyda phobl ifanc fel bod eu profiadau’n llywio ymatebion gan ymarferwyr i achosion o gamfanteisio’n droseddol ar blant.
Mae’r Siarter yn dangos i ymarferwyr beth sy’n bwysig i bobl ifanc, yn eu geiriau nhw eu hunain. Mae hyn yn galluogi ymarferwyr i siarad â phobl ifanc am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, sut y mae modd iddyn nhw ddefnyddio eu cryfderau a’u hadnoddau presennol a pha wasanaethau a dulliau gweithredu a fyddai’n fwyaf defnyddiol iddyn nhw.
Siarter Ieuenctid
Gofynnwch i ni. Rhowch y dewis i ni ynghylch sut, pryd, ac a fyddwn ni’n ymgysylltu â chi ai peidio.
Byddwch yn chi eich hun. Cyflwynwch pwy ydych chi a pham rydych chi eisiau siarad â ni.
Crewch le diogel i siarad. Dewch o hyd i le diogel a chyfforddus i siarad â ni. Gofynnwch i ni ble hoffen ni gwrdd â chi.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol eich bod chi’n ein hadnabod ni. Rydyn ni i gyd yn wahanol. Cymerwch amser i ddod i’n hadnabod ni a beth a allai peri gofid i ni.
Esboniwch eich rôl a’ch cyfrifoldebau. Byddwch yn glir ac yn onest am eich rolau a'ch cyfrifoldebau diogelu. Dywedwch wrthyn ni pa wybodaeth y mae’n rhaid i chi ei rhannu ac a fyddwch chi’n dweud wrthyn ni cyn i hyn ddigwydd.
Canolbwyntiwch arnon ni, nid pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. Peidiwch â saethu cwestiynau aton ni. Gadewch i’r sgwrs lifo drwy gymryd rhan. Peidiwch ag ysgrifennu nodiadau yn unig.
Rhowch amser i ni. Efallai nid dyma’r amser iawn i ni ddweud wrthych chi beth sy’n digwydd. Efallai y bydd gennyn ni rwymedigaethau i’n ffrindiau, neu efallai y byddwn ni’n ofni ymateb gan y rhai sy’n camfanteisio.
Helpwch ni i ymddiried ynoch chi. Byddwch yn onest. Dywedwch wrthyn ni am eich cysylltiadau a’ch rolau gydag ymarferwyr eraill. Gall beri gofid os nad ydyn ni’n gwybod gyda phwy rydych chi’n siarad amdanon ni. Ond gall hefyd fod yn gadarnhaol os ydyn ni’n gwybod eich bod chi’n gweithio gyda phobl eraill i’n helpu.
Ein cynnwys ni wrth wneud penderfyniadau. Dylen ni gael ein hannog a’n cefnogi i wneud penderfyniadau am ein bywydau. Mae hyn yn cynnwys pa gefnogaeth rydyn ni’n ei derbyn, y gwasanaethau rydyn ni’n ymgysylltu â nhw a’r gweithgareddau rydyn ni’n cymryd rhan ynddyn nhw.
Mae jargon yn ein heithrio. Siaradwch â ni ar ein lefel ni a chadw jargon i’r lleiaf.
Cadwch ein hanghenion mewn cof. Mae gennyn ni gefndiroedd a diwylliannau gwahanol. Efallai na fyddwn ni am ymgysylltu yn yr un ffordd. Efallai na fyddwn ni’n teimlo’n gyfforddus mewn cyfarfodydd neu weithgareddau grŵp.
Gwrandewch arnon ni. Byddwch yn barod i glywed yr hyn sydd gennyn ni i’w ddweud. Parchwch ein barn a pheidio â chymryd yn ganiataol eich bod yn ein hadnabod ni.
Cynnal ffiniau. Er ein bod ni am i chi ddod i’n hadnabod ni, mae hwn yn lleoliad gwasanaeth o hyd. Anogwch ni i ddatblygu perthynas ymarferydd a pherson ifanc. Peidiwch â cheisio bod yn ffrindiau i ni.
Peidiwch byth â'n gorfodi ni. Byddwch yn ymwybodol o iaith ein corff a’n cyswllt gyda’n llygaid. Rhowch ein lle personol i ni a byddwch yn sensitif i’n hanghenion a’r pethau sy’n ein sbarduno. Peidiwch â’n gorfodi ni i ddatgelu i chi.
Dylech chi ddim ond addo yr hyn y gallwch chi ei gyflawni. Peidiwch â gwneud addewidion gwag na dweud y byddwch chi’n gwneud pethau oni bai eich bod chi’n gwybod y gallwch chi eu gwneud. Byddwch yn realistig ynghylch yr hyn y gallwch ac na allwch chi ei wneud.
Paratowch eich hun i deimlo’n anghyfforddus. Gall fod yn anodd clywed beth sydd gennyn ni i’w ddweud, am amryw o resymau. Peidiwch â’n beirniadu. Dim ond gwrando.
Ymholwch, ond peidiwch â chwestiynu. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall yr hyn rydyn ni wedi’i ddweud wrthych chi, ond peidiwch â’n cwestiynu na’n holi ni.
Adrodd yn ôl i ni. Dywedwch wrthyn ni y byddwch chi’n gwneud pethau a beth fydd yn digwydd nesaf. Gadewch i ni wybod pa gamau sydd wedi cael eu cymryd ers i ni gwrdd â chi.
Dywedwch hwyl fawr. Rhowch wybod i ni os ydych chi’n newid eich swydd neu’ch rôl. Dywedwch ffarwel wrthyn ni a’n cyflwyno i’r person sy’n cymryd drosodd gennych chi.