Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda phobl ifanc

Does dim bai ar bobl ifanc am fod yn destun camfanteisio troseddol.

Rhaid i weithwyr proffesiynol ddeall bod pobl yn twyllo ac yn cymryd mantais ar bobl ifanc, er eu bod nhw’n credu eu bod yn ffrindiau iddyn nhw.

Ymagwedd sy’n seiliedig ar greu perthynas

Bydd gan bobl ifanc ymarferydd arweiniol, neu weithiwr allweddol, sydd â’r gallu i sefydlu trafodaeth gyfeillgar a meithrin perthynas â nhw: Gall y prif ymarferydd fod yn weithiwr ieuenctid, yn ymarferydd cyfiawnder ieuenctid neu’n weithiwr cymdeithasol.

Pan fo hynny ar gael, dylai pobl ifanc hefyd gael mynediad at fentor sy’n gymheiriad sydd â phrofiad byw o ddioddef camfanteisio troseddol.

Mae mentoriaid sy’n gymheiriaid yn aml yn fwy effeithiol wrth ymgysylltu â phobl ifanc sy’n gyndyn neu’n amharod i gyfathrebu. Mae ganddyn nhw fwy o hygrededd a dealltwriaeth well o deimladau pobl ifanc, yn ogystal â’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu (Maxwell et al., 2022). Gall mentoriaid sy’n gymheiriaid gynnig strategaethau i oresgyn y rhwystrau hyn, herio camsyniadau a bod yn fodelau rôl i annog adferiad (Nixon, 2020).

Mae pob cyswllt yn cyfrif

Dylid ystyried pob cyswllt â phob ymarferydd fel cyfle sydd o fewn ein cyrraedd i ddiogelu pobl ifanc.

Rhaid i weithwyr proffesiynol fod yn fodelau rôl mewn ymarfer diogelu sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n canolbwyntio ar y plentyn, a rhaid iddyn nhw ddeall pwysigrwydd ymgysylltu â phobl ifanc pan fyddan nhw’n barod i wneud hynny.

Datblygiad yn yr arddegau

Dydy ymennydd pobl ifanc ddim yn datblygu'n llawn tan eu hugeiniau, ac felly efallai na fydd eu penderfyniadau’n ymddangos yn rhesymegol na’n synhwyrol i ymarferwyr.

Ar ben hynny, pan fydd rhywun yn meithrin perthynas amhriodol o gynnar gyda pherson ifanc, bydd y person ifanc yn colli cyfnodau sylweddol o addysg orfodol, a gall ei oedran gwybyddol fod yn llawer is na’i oedran cronolegol. Yn dilyn Deddf Galluedd Meddyliol 2005, mae’n rhaid ystyried y datgysylltiad hwn rhwng oedran cronolegol a gwybyddol y person ifanc. Mae’n rhaid i ymarferwyr ymgysylltu â phobl ifanc yn unol â'u hoedran gwybyddol.

Gall gosod pobl ifanc o dan wyliadwriaeth gyson a monitro agos weithio fel ffactor gwthio, gan atgyfnerthu naratif camfanteiswyr nad yw ymarferwyr eisiau’r hyn sydd orau i bobl ifanc.

Dioddefwyr yn ogystal â throseddwyr

Gall pobl ifanc fod yn ddioddefwr a chamfanteisio’n droseddol ar blant ar yr un pryd.

Mae pobl ifanc yn cael eu twyllo i feddwl eu bod wedi gwneud dewis i ennill ‘arian hawdd’. Y gwir amdani yw bod pobl ifanc yn cael eu rheoli gan y camfanteiswyr. Maen nhw’n destun cam-drin corfforol a rhywiol, yn cael eu gorfodi i aros mewn tai brwnt heb lawer o fwyd sy’n llawn oedolion sy’n gaeth i gyffuriau.

Mae’n bosibl bod eu brodyr a’u chwiorydd neu eu rhieni wedi cael eu bygwth. Mae’n bosibl y bydd rhai pobl ifanc yn derbyn y gamdriniaeth hon, er ei fod yn groes i’w hewyllys, fel canlyniad anochel i’r arian hawdd maen nhw’n ei dderbyn. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai eraill yn teimlo eu bod yn gaeth ac nad ydyn nhw’n gallu dianc mewn ffordd ddiogel o’r camfanteiswyr. Mae’n rhaid i ymarferwyr fabwysiadu dull ‘rhoi’r plentyn yn gyntaf’ lle y mae pobl ifanc yn cael eu diogelu, heb gael eu trin fel troseddwyr (Llywodraeth Cymru, 2019).

Siarter Ieuenctid

Mae’r Siarter yn dangos i ymarferwyr beth sy’n bwysig i bobl ifanc, yn eu geiriau nhw eu hunain.

Siarad â phobl ifanc

Pan fydd ymarferwyr yn siarad â phobl ifanc a’u rhieni, mae’n bwysig defnyddio iaith gynhwysol sy’n seiliedig ar gryfderau.