Egwyddorion gweithio aml-asiantaeth effeithiol
Gan fod camfanteisio'n droseddol ar blant yn fater trawsbynciol, mae diogelu cymhleth effeithiol a ddarperir gan bartneriaid aml-asiantaeth yn hanfodol.
Mae gweithio aml-asiantaethol yn galluogi diogelu cymhleth, cyd-destunol a diogelu yn ystod pontio. Mae hyn yn ategu dull system gyfan o adnabod ac amddiffyn pobl ifanc drwy weithio gyda'i gilydd i:
- atal camfanteisio troseddol ar blant
- llywio plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag camfanteisio
- nodi’r rhai sy’n camfanteisio, tarfu arnyn nhw, a’u herlyn
Plentyn yn gyntaf, troseddwr yn ail
Dylech chi wneud y canlynol:
- mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau
- gwrando ar beth sy'n bwysig i'r person ifanc
- sicrhau bod asesu risg yn mynd y tu hwnt i gamfanteisio troseddol
- deall y gall y risg o niwed i bobl ifanc amrywio dros amser
Iaith gyffredin
Dylech chi wneud y canlynol:
- defnyddio iaith gyffredin, gyda diffiniadau a throthwyon a rennir
- osgoi jargon penodol i sector
- osgoi pob term sy'n rhoi'r bai ar y dioddefwr
- cytuno ar gylch gorchwyl a ffyrdd o weithio
Rhieni’n rhan o’r ateb
Dylech chi wneud y canlynol:
- deall bod rhieni'n arbenigwyr ar eu plant
- deall y dylanwad cyfyngedig sydd gan rieni ar bobl ifanc yn eu harddegau
- sicrhau nad yw rhieni'n cael eu beio: oedolion eraill sy’n camfanteisio ar y rhan fwyaf o bobl ifanc yn droseddol
- sylweddoli bod gan rieni wybodaeth bwysig i’w defnyddio at ddiogelu
Rolau a chyfrifoldebau clir
Dylech chi wneud y canlynol:
- deall rôl, cylch gwaith a blaenoriaethau pob asiantaeth
- deall beth all pob asiantaeth ei gyfrannu
- sefydlu sianeli cyfathrebu rhwng asiantaethau
- sicrhau bod cynlluniau aml-asiantaeth yn cael eu datblygu a'u cyflawni
Rhannu gwybodaeth
Dylech chi wneud y canlynol:
- sefydlu protocolau ar gyfer cofnodi, rhannu a diweddaru gwybodaeth
- deall pa wybodaeth ddylai gael ei rhannu
- ystyried a fydd y risg i'r person ifanc yn cynyddu os ydych chi’n rhannu gwybodaeth
Gwybodaeth arbenigol
Dylech chi wneud y canlynol:
- datblygu gwybodaeth arbenigol am sut mae camfanteisio'n droseddol ar blant yn gweithredu yn yr ardal leol
- dysgu am fentrau i'w dargedu
- sicrhau bod eich gwybodaeth am gamfanteisio troseddol yn gyfredol
- lledaenu gwybodaeth berthnasol o fewn ac ar draws asiantaethau