Ewch i’r prif gynnwys

Arwyddion rhybuddio i’r Gwasanaethau Ieuenctid

Mae angen i ymarferwyr gwasanaethau ieuenctid fod yn effro i arwyddion rhybuddio o ganlyniad i gamfanteisio’n droseddol ar blant.

Mae amrywiaeth o ffactorau risg ychwanegol y dylai gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid a gwirfoddolwyr gwaith ieuenctid fod yn effro iddyn nhw.

Newidiadau yn eich ymddygiad

Gallai hyn gynnwys:

  • aros allan yn hwyr
  • cael nifer o ffonau symudol gwahanol
  • newid grwpiau o gyfoedion
  • ymddwyn yn heriol yn yr ysgol
  • bod ag eiddo newydd neu arian

Efallai y byddan nhw’n ymddwyn yn heriol yn yr ysgol, a'r addasiad cymharol ddiweddar lle mae pobl ifanc yn cael eu hannog i ymddwyn yn dda er mwyn peidio â thynnu sylw atyn nhw eu hunain. Felly, dylai gweithwyr ieuenctid fod yn wyliadwrus yn achos pobl ifanc oedd arfer ymddwyn yn anwadal yn troi’n ddisgyblion rhagorol. Dylen nhw fod yn awyddus cael gwybod pam mae'r newidiadau hyn wedi digwydd.

Cyfnodau pontio

Gall pobl ifanc gael eu targedu pan fyddant yn symud i ysgol, coleg neu brifysgol newydd:

  • ysgol gynradd i ysgol uwchradd (10 neu 11 oed)
  • ysgol uwchradd i goleg addysg bellach (16 oed)
  • coleg addysg bellach i addysg uwch (18 oed)
  • cyflogaeth, neu hyfforddiant

Yn ystod y cyfnodau hyn o newid, gall pobl ifanc deimlo'n unig, yn ynysig neu wedi'u dieithrio. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i gamfanteiswyr daro perthynas â nhw.

Mae pobl ifanc hefyd mewn mwy o berygl pan fyddan nhw’n symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion wrth i lefel y cymorth sydd ar gael iddyn nhw leihau'n sylweddol. Mae’r oedran pan fydd unigolyn yn symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn amrywio yn ôl y gwasanaeth:

  • 16 mlynedd yn y gwasanaeth iechyd
  • 18 mlynedd yn y gwasanaethau cymdeithasol neu’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid.
  • 25 mlynedd yn achos llawer o sefydliadau’r trydydd sector

Dylai gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid fabwysiadu trefniadau diogelu trosiannol ar gyfer pobl ifanc pan fyddan nhw’n dod yn oedolion.

Difrod i eiddo

Efallai y bydd gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid a gwirfoddolwyr mewn gwaith ieuenctid yn sylwi ar ddifrod i gartref y person ifanc. Efallai y bydd camfanteiswyr yn 'cicio'r drws i lawr' er mwyn bygwth neu ddychryn y person ifanc, eu brodyr a’u chwiorydd neu eu rhieni.

Dylai gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid siarad â brodyr a chwiorydd iau gan eu bod yn fwy tebyg o fod mewn perygl dioddef camfanteisio troseddol. Gall y ffaith bod pobl ifanc heb deulu na chysylltiadau â'r gymuned leol fod yn arwydd eu bod wedi cael eu masnachu i'r ardal.

Ar lefel gymunedol, mae gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid a gwirfoddolwyr gwaith ieuenctid mewn sefyllfa ddelfrydol i arsylwi ar bobl ifanc a'u perthynas â'u cyfoedion. Dylent fod yn effro i berthnasoedd lle mae  cyfoedion hŷn neu oedolion yn rheoli’r person ifanc, neu os yw unigolion, grwpiau neu leoedd yn codi ofn ar y person ifanc. Mae hyn yn cynnwys bod yn wyliadwrus ynghylch anafiadau corfforol anesboniadwy neu bod y person ifanc yn siarad mewn modd annelwig ynghylch yr hyn a ddigwyddodd.

Efallai y byddan nhw’n osgoi rhai ardaloedd penodol, neu am osgoi cael eu gweld yn siarad â gweithwyr ieuenctid neu weithwyr cymorth ieuenctid. Dylai gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid a gwirfoddolwyr ym maes gwaith ieuenctid hefyd fod yn effro i’r defnydd o ganabis modd o fachu plant er mwyn camfanteisio arnyn nhw. Er nad yw’r defnydd o ganabis yn ddangosydd o gamfanteisio troseddol ar blant, efallai y bydd rhai pobl ifanc yn cael cyffuriau heb dalu amdanyn nhw’n syth, fel modd o’u twyllo i gaethiwed dyled.