Ewch i’r prif gynnwys

Arwyddion rhybuddio i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Mae gan y Gwasanaethau Cyfiawnder rôl bwysig i’w chwarae o ran canfod arwyddion cynnar camfanteisio’n droseddol ar blant sydd weithiau’n anodd eu hadnabod.

Mae rhai pobl ifanc yn cael eu harwain i gredu bod y rhai sy’n camfanteisio arnyn nhw’n ffrindiau ac yn gofalu amdanyn nhw. Mae/n rhaid i ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid fod yn effro i gamfanteisio troseddol ar blant a’r gwahanol ffyrdd y mae’n cael ei amlygu.

Mae hyn yn cynnwys meithrin perthynas amhriodol a chamfanteisio troseddol o fewn yr ystâd ieuenctid ddiogel, yn ogystal â’r gymuned ehangach, a defnyddio pobl ifanc i dargedu a meithrin perthynas amhriodol â’u cyfoedion yn gyfnewid am gyffuriau neu i atal trais iddyn nhw eu hunain neu i’w teuluoedd.

Efallai na fydd pobl ifanc yn gwybod nac yn ystyried bod eu gweithredoedd yn anghywir nac yn erbyn y gyfraith. Gall camfanteiswyr guddio neu leihau natur gweithgareddau troseddol.

Efallai byddan nhw’n cael gwybod:

  • eu bod yn gollwng rhywbeth i 'ffrind' neu eu bod ‘mewn dyled’ i’r camfanteisiwr, a bod galw arnyn nhw wneud cymwynas iddyn nhw
  • eu bod nhw’n helpu pobl sy’n gaeth i gyffuriau drwy roi ‘bwyd’ iddyn nhw, neu eu bod nhw’n cyflawni trosedd heb ddioddefwyr wrth gyflawni twyll neu fflipio arian
  • y byddan nhw’n cael eu cosbi gan wasanaethau diogelu plant os ydyn nhw’n honni bod rhywun yn camfanteisio arnyn nhw
  • y byddan nhw’n cael eu harestio neu eu cymryd i ofal awdurdod lleol.

Mae'n rhaid i ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid gael llwybrau gwasanaeth clir ar gyfer y sawl sy’n troseddu am y tro cyntaf, a phobl ifanc sy’n dod i’w sylw am y tro cyntaf.

Pan amheuir bod rhywun yn camfanteisio’n droseddol ar blant, dylai ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid gyfeirio’r person ifanc at wasanaethau plant gan ddefnyddio Ffurflen Atgyfeirio Amlasiantaeth (MARF).