Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifoldebau diogelu'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Rhaid i ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid fabwysiadu dull diogelu’r plentyn yn gyntaf a’r troseddwr yn ail, sy’n seiliedig ar drawma.

Os yw ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid yn amau bod rhywun yn camfanteisio’n droseddol ar blant, rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu chwilfrydedd proffesiynol i ymgorffori diogelu yn eu trefniadau arferol.

Dulliau’n seiliedig ar ystyried y teulu cyfan

Mae camfanteisio’n droseddol ar blant yn cael effaith negyddol ar y teulu cyfan.

Nid yw’r rhan fwyaf o rieni yn gyfrifol am gamfanteisio’n droseddol ar eu plentyn, ond gallant gael eu beio, eu heithrio a/neu eu bygwth gan y camfanteiswyr. Dylai ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid fabwysiadu dulliau teulu cyfan a gweithio gyda rhieni, gan eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau lle bo’n briodol, gan eu bod yn aml yn meddu ar wybodaeth hanfodol am y person ifanc.

Dylai ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid fod yn ymwybodol y gall brodyr a chwiorydd person ifanc sy’n dioddef camfanteisio troseddol fod mewn perygl mwy nag arfer o gamfanteisio troseddol neu rywiol. Mewn rhai achosion, mae pobl ifanc yn etifeddu dyledion cyffuriau gan rieni neu frodyr a chwiorydd.

Gwaith amlasiantaethol

Rhaid i ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid weithio gydag asiantaethau eraill.

Rhaid iddyn nhw gael systemau i gofnodi data er mwyn:

  • hwyluso’r gwaith o adnabod patrymau neu dueddiadau
  • dadansoddi’r wybodaeth hon fel y gellir ei defnyddio mewn gwaith diogelu ac atal.

Rhaid i ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid a swyddogion prawf rannu gwybodaeth er mwyn adnabod y peryglon gall y canlynol eu peri i bobl ifanc :

  • oedolion hŷn yn gadael yr ystâd ddiogel
  • perthynas â chyfoed neu oedolyn hŷn
  • perthnasoedd lle mae cyfoedion hŷn neu oedolion yn eu rheoli
  • cyfoedion neu oedolion hŷn sy’n cyfyngu ar faint maen nhw’n ymwneud â gwasanaethau.

Diogelu trosiannol

Gall pobl gamfanteisio ar bobl ifanc ar ôl iddyn nhw droi’n 18.

Dylai ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid fod yn ymwybodol, pan fydd camfanteisio troseddol yn digwydd i bobl ifanc yn gynnar yn eu bywyd, na fyddan nhw’n gallu diogelu eu hunain rhag dioddef camfanteisio dro ar ôl tro.

Mae angen dulliau diogelu trosiannol fel bod ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid yn gallu gwneud y canlynol:

  • parhau i weithio gyda phobl ifanc a’u rhieni pan fydd pobl ifanc yn troi’n 18 oed
  • rhannu gwybodaeth gyda rhieni, lle bo hynny’n briodol, gan fod rhieni’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiogelu eu plant ac yn parhau i ofalu a chefnogi’r person ifanc pan fydd yn oedolyn.