Ewch i’r prif gynnwys

Arwyddion rhybudd i’r heddlu

Rydyn ni’n aml yn galw ar yr heddlu pan fydd pobl ifanc mewn argyfwng.

Mae amrywiaeth o ffactorau risg ychwanegol y dylai swyddogion yr heddlu fod yn effro iddyn nhw pan ddaw’n fater o nodi achosion o gamfanteisio’n droseddol ar blant.

Cyfnodau o fynd ar goll

Mae cyfnodau o fynd ar goll yn cynnwys achosion pan fydd person ifanc yn mynd ar goll yn fynych am gyfnodau byr, megis yn ystod y diwrnod ysgol neu dros nos, neu am gyfnodau hwy o ddiwrnodau, wythnosau neu fisoedd. Gall hyn gynnwys cael eich masnachu yn yr ardal leol neu ledled Cymru i Loegr.

Dylai swyddogion yr heddlu hyrwyddo'r defnydd o systemau sy’n bodoli eisoes, megis Protocol Philomena. Dylen nhw sicrhau bod rhieni, gofalwyr, ymarferwyr cartrefi preswyl ac ymarferwyr tai’n llenwi'r ddwy ffurflen gais, sydd ar gael ar wefan Heddlu Manceinion Fwyaf.

Cyfnodau o fynd ar goll

Cyfnodau coll yw’r dangosydd mwyaf bod plentyn yn cael ei ecsbloetio

Cyngor i rieni ar siarad â'r heddlu am gamfanteisio’n droseddol ar blant

Sut i fynd at yr heddlu os bydd achos o gamfanteisio'n droseddol ar blant.

Straeon wedi’u hymarfer, neu straeon tebyg

Pan fydd rhywun yn camfanteisio’n droseddol ar berson ifanc, efallai y bydd wedi dweud wrth y person ifanc hwnnw beth i’w ddweud wrth swyddogion yr heddlu. Efallai y bydd gan bobl ifanc straeon tebyg neu straeon y mae’n ymddangos eu bod wedi’u hymarfer, a straeon sy’n debyg o ran eu natur neu sy'n amlwg yn anwir. Yn hytrach na bod yn dystiolaeth o euogrwydd, gall hyn ddangos bod y bobl ifanc wedi cael gwybod beth i'w ddweud gan y rhai sy'n camfanteisio arnyn nhw.

Gwybodaeth am systemau’r heddlu

Gall swyddogion yr heddlu ddod yn amheus pan fydd gan berson ifanc wybodaeth ymarferol dda am systemau'r heddlu, y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ac amddiffyniad o dan Adran 45. Gall hyn fod oherwydd diddordeb yr unigolyn sy’n camfanteisio arno mewn sicrhau ei fod yn dychwelyd i'r strydoedd yn gyflym ac oherwydd ei fod wedi cael gwybod beth i’w ddweud, ac nid oherwydd ei fod yn strydgall.

Gallai pobl ifanc gael eu hannog i droseddu drwy gynnig arian neu amddiffyniad iddyn nhw. Efallai eu bod yn credu eu bod yn dewis troseddu, neu efallai eu bod yn anfodlon derbyn eu bod yn cael eu defnyddio gan eraill.

Mae pobl ifanc yn aml yn rhedwyr i ddechrau, ond mae’n bosibl y byddan nhw’n symud i fyny'r hierarchaeth yn gyflym. Mae hyn yn gwneud y gwahaniaeth rhwng dioddefwr a throseddwr yn aneglur.

Mannau gwan

Mae’r rhai sy’n camfanteisio ar bobl ifanc yn arbenigwyr mewn dod o hyd i fylchau yn y system bresennol. Er enghraifft, maen nhw’n sicrhau nad yw’r bobl ifanc yn cario mwy na £900 oherwydd Deddf Enillion Troseddau 2002. O dan y ddeddf hon, dim ond pan fydd gan berson ifanc o leiaf £1,000 y gall cwnstabl anarbenigol wneud cais i atafaelu a fforffedu arian parod.