Cyfrifoldebau diogelu'r heddlu
Gall mabwysiadu dull ‘y plentyn yn gyntaf’ leddfu ofn person ifanc o ran cael ei arestio.
Ac yntau’n wasanaeth brys, rydyn ni’n aml yn galw ar yr heddlu pan fydd pobl ifanc mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa gwasanaethau eraill. Eto, bydd y rhai sy’n camfanteisio ar bobl ifanc wedi dweud wrthyn nhw am ofni’r heddlu. Efallai bod y bobl ifanc wedi’u bygwth gan yr hyn a fydd yn digwydd iddyn nhw os bydd yr heddlu’n eu dal.
Mae’n rhaid i holl swyddogion yr heddlu fod yn effro i gamfanteisio’n droseddol ar blant, y gwahanol ffurfiau arno a’r amrywiaeth o droseddwyr a throseddau y mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi i’w cyflawni. Mae hyn yn cynnwys mynd y tu hwnt i’r dystiolaeth weladwy.
Mae Diogelu Cymhleth yn galw am chwilfrydedd proffesiynol ac yn mynnu eich bod yn gofyn i chi’ch hun:
- pam mae’r person ifanc yn y lle hwn?
- pam mae ganddo gymaint o arian, tra mae’n llwglyd ac yn frwnt?
- sut y gwnaeth fforddio’r cyffuriau hyn?
Dylai swyddogion yr heddlu hefyd ystyried cyfnodau o fynd yn goll yn y gorffennol a chyswllt â’r heddlu, oherwydd gallai hyn greu darlun neu ddangos patrwm sy’n awgrymu bod rhywun yn camfanteisio’n droseddol ar y person ifanc.
Mwy o risg
Gallai unrhyw gyswllt â’r heddlu arwain at ôl-effeithiau i’r person ifanc a’i deulu. Pan fydd cyffuriau neu arian wedi’u hatafaelu, bydd pobl ifanc yn cael eu rhoi mewn caethiwed dyled i’r bobl sy’n canfanteisio arnyn nhw. Os na fydd y person ifanc yn ad-dalu’r ddyled hon, gall gael ei herwgipio neu fod yn destun trais rhywiol neu artaith.
Gall pobl ifanc gyfeirio at eu hofn neu eu pryderon o ran diogelwch aelodau’r teulu. Efallai eu bod yn ofni ymateb eu rhieni a mynd i helynt.
Mae dulliau amlasiantaethol o’r pwys mwyaf i ddiogelu’r person ifanc. Mae’n rhaid i swyddogion yr heddlu ddeall y llwybrau gwasanaeth ar gyfer camfanteisio’n droseddol ar blant, caethwasiaeth fodern, masnachu pobl a chamfanteisio’n rhywiol ar blant wrth gyfeirio pobl ifanc at asiantaethau eraill.
Mae’n rhaid i swyddogion yr heddlu gyfrannu at drafodaethau a chyfarfodydd amlasiantaethol. Dylen nhw roi a derbyn gwybodaeth a all gael ei defnyddio ar lefel yr unigolyn i ddiogelu pobl ifanc ac ar lefel y gymuned i nodi patrymau a thueddiadau er mwyn targedu’r rhai sy’n uwch yn y gadwyn camfanteisio troseddol.
Dyluniwyd Pecyn Cymorth Diogelu Cymhleth i Ymarferwyr Cymru i gyd-fynd â’r canllawiau polisi ac ymarfer yng Nghymru.