Ewch i’r prif gynnwys

Polisi tai a chanllawiau ymarfer

Nid yw llawer o bobl yn gwybod eu bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol o ran tai.

Deddf Tai (Cymru) 2014

Yn ôl Deddf Tai (Cymru) 2014, mae digartrefedd yn mynd y tu hwnt i fod heb lety addas a chysgu ar y strydoedd. Mae'n cynnwys pobl sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref yn ogystal â'r rhai y mae’r rhain yn berthnasol iddyn nhw:

  • heb lety ond o bosibl yn aros gyda ffrind, yn 'mynd o un soffa i’r llall' neu’n defnyddio lloches nos
  • bod llety ganddyn nhw ond heb fynediad iddo – gall hyn fod oherwydd sgwatwyr, oherwydd eu bod wedi cael troi allan anghyfreithlon, neu lle mae pobl yn byw mewn ‘strwythur symudol’ fel carafán neu gwch ac nad oes ganddyn nhw unman i’w osod
  • bod llety gyda nhw ond nad oes modd iddyn nhw fyw yno – gall hyn fod o ganlyniad i salwch neu anabledd, cam-drin domestig neu oherwydd nad yw’r llety o safon ddigon da i fyw ynddo

Mae'r Ddeddf yn ymestyn ac yn cryfhau ymatebion awdurdodau lleol i ddigartrefedd drwy ymyrraeth gynnar, atal a chefnogi. Mae'n nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol:

  • atal digartrefedd a chynnig gwasanaethau atal i unrhyw un sydd mewn perygl o golli eu cartref o fewn 56 diwrnod
  • sicrhau ansawdd y cartrefi y maen nhw’n eu cynnig gyda safonau ar gyfer rhent a thaliadau gwasanaeth
  • cynnig lleoedd addas i fyw ynddyn nhw, p'un ai mewn tai cymdeithasol neu lety rhent preifat
  • cynnig safleoedd addas ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, os yw’r angen wedi’i nodi

Adran 55

Ystyrir bod pobl ifanc ac oedolion yn ddigartref os nad ydyn nhw’n gallu 'cael mynediad' i'w llety, ac:

ni chaniateir i rywun gael ei ystyried yn berson sydd â llety, oni bai ei fod yn rhesymol disgwyl i’r person allu parhau i feddiannu’r llety hwnnw.”

Mae hyn yn golygu, pan fo llety wedi cael ei droi’n 'nyth cwcw', neu ei gymryd drosodd gan werthwyr cyffuriau, bod ganddyn nhw’r hawl i gael cymorth a chefnogaeth gyda'u hanghenion o ran tai.

Adran 70

Gall rhai pobl ifanc gael cymorth brys gyda’u hanghenion o ran tai:

  • pobl ifanc 16 i 17 oed nad ydyn nhw’n gallu dychwelyd i gartref eu rhiant neu ofalwr
  • pobl ifanc 18 i 20 oed sydd mewn perygl neu sy’n cael eu rheoli gan berson arall, gan gynnwys camfanteisio rhywiol neu ariannol
  • pobl dros 21 oed sy’n agored i niwed am reswm arbennig, fel bod wedi dioddef trais neu gamdriniaeth, a lle byddai’r perygl hwn yn parhau pe baen nhw’n cael eu hanfon adref

Rhaid i ymarferwyr tai arfer eu chwilfrydedd proffesiynol oherwydd gall ffrindiau neu berthnasau gamfanteisio’n droseddol ar bobl ifanc. Dylid nodi hefyd na all yr awdurdod lleol orfodi person ifanc i ddychwelyd i gartref y rhiant na'r gofalwr.

Dylai pobl ifanc hyd at 20 oed sydd wedi derbyn gofal, wedi eu lletya neu eu maethu tan eu bod yn 18 oed gael cymorth brys o ran tai, ac mae’r un peth yn wir am y rhai sydd wedi cael eu remandio i lety cadw ieuenctid, neu i ddalfa a'r rhai sydd wedi cael dedfryd o garchar.

Er mwyn cael cymorth gyda thai neu ddigartrefedd, mae'n rhaid i unigolyn gael cysylltiad lleol â'r ardal.

Adran 81

Rhaid bod o leiaf un o’r canlynol fod yn berthnasol i’r sawl sy’n gwneud cais:

  • byw yn yr ardal
  • wedi byw yno yn y gorffennol
  • gweithio yn yr ardal
  • â theulu’n byw yn yr ardal
  • â chysylltiad â'r ardal oherwydd amgylchiadau arbennig

Mae’n rhaid i ymarferwyr tai ystyried diogelwch y person ifanc ac ystyried a yw’n gofyn am lety y tu allan i'r ardal er mwyn dianc rhag camfanteisio troseddol.

Tai yn Gyntaf i Ieuenctid

Mae Tai yn Gyntaf i Ieuenctid wedi'i anelu at bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd â nifer o broblemau cymhleth, fel problemau iechyd meddwl a/neu broblemau camddefnyddio sylweddau, sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae’n bosibl y bydd gan y bobl ifanc hyn wedi cael profiadau negyddol gyda’r ddarpariaeth o wasanaethau sydd ar gael.

Mae Cymorth Cymru – corff cynrychioladol digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru – wedi addasu egwyddorion allweddol Tai yn Gyntaf ar gyfer pobl ifanc. Yr egwyddorion hyn yw:

1. Mae gan bobl ifanc yr hawl i gartref

Dylai pobl ifanc gael tai lle gallan nhw fanteisio ar wasanaethau, addysg a chyfleoedd cyflogaeth. Bydd ganddyn nhw’r dewis i fyw ar eu pennau eu hunain, mewn llety a rennir, neu’n agos at eu teulu a'u ffrindiau.

2. Mae tai a chymorth yn ddau beth ar wahân

Bydd cymorth yn dilyn y person ifanc, waeth beth yw’r llety y mae’n ei ddewis a statws eu tenantiaeth.

3. Cefnogaeth hyblyg

Dylai cymorth hyblyg gael ei gynnig am y cyfnod y mae’r person ifanc ei eisiau gan ymarferwyr sy’n arbenigo mewn gweithio gyda phobl ifanc. Dylai’r gefnogaeth newid yng ngoleuni dewisiadau a blaenoriaethau’r person ifanc.

4. Cefnogaeth gyda phontio rhwng gwasanaethau

Mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau weithio gyda'r person ifanc i benderfynu a oes angen cymorth gyda phontio (e.e. o wasanaethau i bobl ifanc i wasanaethau i oedolion). Dylai pontio rhwng gwasanaethau ddigwydd yn llyfn ac mewn modd sensitif.

5. Mae gan bobl ifanc ddewis a rheolaeth dros y ffordd y maen nhw’n ymwneud â gwasanaethau

Disgwylir i bobl ifanc ymwneud â gwasanaethau, ond dyletswydd y darparwr yw dod o hyd i’r ffordd gywir i ymgysylltu.

6. Mae’r gwasanaeth yn seiliedig ar gryfderau, nodau a dyheadau’r person ifanc

7. Dulliau gyda’r nod o leihau niwed a ddiogelu

Os yw person ifanc yn ymddwyn mewn ffordd allai fod yn niweidiol i’w iechyd corfforol, ei iechyd meddwl a’i les, bydd gwasanaethau yn mabwysiadu dull lleihau niwed.

Os yw rhywun mewn perygl difrifol o niweidio ei hun neu eraill, bydd yr asiantaethau’n defnyddio dull diogelu.

8. Gwasanaethau sy’n seiliedig ar gryfderau, sy’n wybodus yn seicolegol, yn wybodus am drawma, ac yn wybodus am rywedd

Mae’n rhaid i’r gwasanaeth gael ei ddarparu mewn ffordd sy’n seiliedig ar gryfderau, yn wybodus yn seicolegol, yn wybodus am drawma, yn wybodus am rywedd, a dylai fod yn sensitif ac yn ymwybodol o nodweddion gwarchodedig.

9. Lleisiau pobl ifanc

bydd darparwyr gwasanaethau yn cymryd amser i ddeall diddordebau, anghenion a dehongliad y person ifanc o’r gymuned, fel bod modd iddyn nhw gefnogi’r cleient i feithrin cysylltiadau â chymunedau o ddiddordeb yn ogystal â chymunedau yn seiliedig ar le.

10. Ehangder y gwasanaethau a ddarperir

Dylid cynnig ystod o wasanaethau ystyrlon i bobl ifanc ar gyfer y cyfnod pan fyddan nhw’n barod i ymgysylltu â nhw.