Adnabod y risg o niwed
Mae pobl ifanc sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu’n lled-annibynnol yn wynebu mwy o risg o fod yn destun camfanteisio.
Mae gan ymarferwyr tai rôl wrth adnabod a diogelu pobl ifanc rhag fod yn destun camfanteisio’n droseddol ar blant. Mae hyn oherwydd bod camfanteiswyr yn cymryd mantais ar y canlynol sy’n ymwneud â phobl ifanc:
- llai o oruchwyliaeth gan oedolion
- teimladau o unigrwydd a’u bod wedi’u hynysu
- diffyg rhwydwaith teuluol neu gymdeithasol
- incwm cyfyngedig
Gall camfanteiswyr ddefnyddio trais neu fygwth trais i ddylanwadu ar bobl ifanc er eu lles eu hunain. Efallai y byddan nhw’n cynnig ‘arian hawdd ei ennill’, statws, neu ‘deulu’ newydd. Efallai y byddan nhw’n eu defnyddio i gael mynediad at bobl ifanc eraill sy’n byw yn yr un llety.
Efallai y bydd pobl ifanc yn amharod i ddatgelu achosion o gamfanteisio rhag ofn y byddan nhw’n colli eu tenantiaeth neu lety. Efallai eu bod yn poeni am gael eu beio, yn enwedig os ydyn nhw wedi eu gwahodd i’w heiddo, wedi gofyn am help i ennill arian, neu wedi derbyn cyffuriau ‘am ddim’. Gall hyn wneud iddyn nhw deimlo'n ofnus am sgil-effeithiau gan eu camfanteiswyr os ydyn nhw’n siarad â gweithwyr proffesiynol.
Hyd yn oed pan fydd pobl ifanc yn cael eu hadleoli y tu allan i’r ardal, dylai ymarferwyr tai fod yn ymwybodol y gallai pobl ifanc, eu rhieni neu eu brodyr a chwiorydd ddod yn destun bygythiadau a brawychu tra bod y camfanteiswyr yn ceisio dod o hyd i’r person ifanc:
Ffactorau risg
Mae camfanteiswyr yn targedu pobl ifanc sy’n profi ansefydlogrwydd o ran llety. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd mewn llety dros dro, hosteli, yn aros gyda ffrindiau am gyfnod byr neu’n ddigartref.
Mae yna ystod o ffactorau risg ychwanegol y dylai ymarferwyr tai fod yn effro iddyn nhw, gan gynnwys i’r rhai sy’n bobl ifanc sydd wedi derbyn gofal neu’n geiswyr lloches ar eu pen eu hunain.
Pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
Efallai y bydd pobl yn mynd ati’n weithredol i’w targedu, yn enwedig y rhai sy’n derbyn gofal maeth neu sydd wedi profi chwalfa mewn lleoliadau eraill.
Pan fydd pobl ifanc yn ystyried bod camfanteiswyr yn gofalu amdanyn nhw a’u bod yn ‘deulu’ iddyn nhw, gallan nhw ystyried bod y buddion yn fwy na risgiau camfanteisio’n droseddol.
Ceiswyr lloches ar eu pennau eu hunain
Gallai ceiswyr lloches ar eu pennau eu hunain mor ifanc â 15 oed gael eu rhoi mewn llety lled-annibynnol.
Maen nhw’n wynebu risg benodol, gan na fydd ganddyn nhw rwydwaith cymdeithasol nac arian i’w helpu, ac efallai y byddan nhw’n rhy ofnus i ddweud wrth unrhyw un.
Cogio (Cuckooing)
Un o nodweddion cyffredin camfanteisio’n droseddol ar blant yw ‘cogio’. Dyma lle mae cartref person ifanc neu oedolyn agored i niwed yn cael ei gymryd drosodd gan ddeliwr cyffuriau neu grŵp.
Mae’n bosibl nad yw pobl ifanc yn adnabod y bobl sydd wedi cymryd drosodd eu cartrefi, neu efallai eu bod wedi cael eu twyllo i adael i ‘ffrindiau i ffrindiau’ aros dros nos. Efallai y byddan nhw'n cael eu perswadio, eu gorfodi neu eu cymell drwy golli cyfeillgarwch ac aelodaeth posibl y grŵp, trwy rai yn cynnig cyffuriau am ddim, neu arian iddyn nhw. Mae’n bosibl y bydd pobl yn camfanteisio ar fenywod ifanc drwy gamargraff perthynas ramantus.
Gall cogio wneud person ifanc yn rhy ofnus i adael eu cartref, neu os ydyn nhw’n gadael, efallai na fyddan nhw’n teimlo ei bod yn ddiogel iddyn nhw ddychwelyd.
Arwyddion rhybuddio
Gall ymarferwyr tai adnabod eiddo lle y mae cogio’n digwydd trwy’r arwyddion canlynol:
- pobl yn mynd a dod bob amser o’r dydd a’r nos
- ceir a feiciau yn dod i’r eiddo am gyfnodau byr
- mwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol o amgylch yr eiddo
- efallai bydd y tenant yn rhoi’r gorau i siarad â staff tai neu ymarferwyr eraill
Does gan bobl ifanc ddim y pŵer i orfodi’r camfanteiswyr i adael ac nid ydynt yn cael llais am y pethau sy’n digwydd yn eu cartrefi. I’r gwrthwyneb, gall pobl ifanc gael eu gorfodi, eu cymell neu eu dychryn i aros mewn eiddo sy’n cael eu cogio oddi wrth bobl ifanc eraill neu oedolion agored i niwed, neu i gogio eiddo oddi wrth rywun arall.
Ymagweddau sy’n seicolegol wybodus.
Mae dulliau sy’n seiliedig ar wybodaeth seicolegol yn helpu ymarferwyr a gwasanaethau i ddeall trawma a gweithio’n therapiwtig gyda phobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu’r risg o fod yn ddigartref, neu sydd eisoes yn ddigartref.
Maen nhw wedi'u hanelu at roi’r cyfle gorau i bobl ddigartref ac i bobl sy’n cysgu ar y stryd ddianc rhag digartrefedd trwy welliannau yn eu lles emosiynol a meddyliol, eu perthnasoedd a'u strategaethau ymdopi.
Dyluniwyd Pecyn Cymorth Diogelu Cymhleth i Ymarferwyr Cymru i gyd-fynd â’r canllawiau polisi ac ymarfer yng Nghymru.