Arwyddion rhybuddio i weithwyr gofal iechyd proffesiynol
Mae angen i ymarferwyr gofal iechyd fod yn effro i arwyddion rhybuddio o ganlyniad i gamfanteisio’n droseddol ar blant.
Efallai bydd ymarferwyr gofal iechyd yn sylwi ar arwyddion o drawma corfforol neu feddyliol. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o ffactorau risg ychwanegol y dylai ymarferwyr iechyd fod yn effro iddyn nhw. Ymhlith y rhain mae:
- diffyg gwybodaeth am ble maen nhw’n byw neu'n mynd i'r ysgol
- diffyg cysylltiadau lleol
- heb fod wedi cofrestru gyda meddyg teulu
- wedi symud sawl gwaith yn lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol
Arwyddion corfforol
Mae’n bosibl y bydd gan bobl ifanc anafiadau anesboniadwy a allai fod yn arwydd o ymosodiadau treisgar, fel cael eu curo â theclynnau metel, cael eu trywanu, neu eu torri’n wael yn yr wyneb. Gall arwyddion o hunan-niweidio mewn person ifanc, fel anafiadau sy’n cael eu hachosi pan fydd rhywun yn bwrw ei hun, arwain at drais cynyddol.
Mae camfanteiswyr yn defnyddio trais corfforol, sy’n ymdebygu i ‘godi treth’ ar y dioddefwr, i reoli pobl ifanc sydd wedi 'gwneud camgymeriad' drwy eu marcio neu eu hanafu fel gwers i eraill - er enghraifft, tynnu eu ewinedd allan.
Anafiadau rhywiol
Gall camfanteiswyr ddefnyddio cam-driniaeth neu drais rhywiol fel ffurf o reoli dioddefwr. Gall hyn gynnwys 'plygio' (plugging) lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi i guddio cyffuriau y tu mewn i'w cyrff.
Dylai ymarferwyr gofal iechyd fod yn ymwybodol y gallai bechgyn fod yn fwy cyndyn o ddatgelu ymosodiadau rhywiol.
Esgeulustod
Os yw person ifanc yn ymddangos yn frwnt ac ddi-raen, gall fod yn arwydd eu bod yn cael eu gorfodi i aros mewn tai brwnt. Os yw’n ymddangos bod person ifanc dan eu pwysau neu eisiau bwyd, gall hyn fod yn arwydd arall o esgeulustod.
Arwyddion meddyliol
Mae’n bosibl bod pobl ifanc wedi cael eu gorfodi i fod yn dyst i drais, neu wedi dioddef trais eu hunain, all achosi arwyddion o drawma meddyliol. Efallai bydd ymarferwyr gofal iechyd yn sylwi bod pobl ifanc yn teimlo’n fwy diymadferth, ac nad oes unrhyw un yn gallu eu helpu.
Efallai y bydd pobl ifanc yn defnyddio alcohol neu gyffuriau fel ffordd o ymdopi â thrawma meddyliol. Gellir defnyddio canabis fel modd o 'fachu' pobl ifanc, hynny yw, eu cau mewn i berthynas o gamfanteisio, drwy'r hyn a elwir yn 'gaethiwed dyled'. Mae hyn yn gwneud i bobl ifanc deimlo eu bod nhw mewn dyled i’w camfanteiswyr am y canabis y maen nhw’n yn cael eu hannog i'w defnyddio. Mae camfanteisiwyr yn ychwanegu symiau mawr o log at y taliadau hyn i rwystro pobl ifanc rhag dianc.
Dyluniwyd Pecyn Cymorth Diogelu Cymhleth i Ymarferwyr Cymru i gyd-fynd â’r canllawiau polisi ac ymarfer yng Nghymru.