Polisi gofal iechyd a chanllawiau ymarfer
Rhaid i ymarferwyr iechyd weithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i wella canlyniadau llesiant i bobl ifanc sy’n cael eu hecsbloetio.
Mae darparwyr gofal iechyd yn cadw gwybodaeth hanfodol y gellir ei defnyddio i helpu i nodi a yw plentyn yn cael ei ecsbloetio. Rhaid iddyn nhw gyfrannu at drafodaethau a chyfarfodydd strategaeth aml-asiantaeth.
Mae’n rhaid sefydlu systemau sy'n galluogi ymarferwyr iechyd i gael gafael ar wybodaeth a'i rhannu, cyn gynted â phosibl.
Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-22
O dan y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau, dylid cynnig y cymorth mwyaf priodol i bobl ifanc yn seiliedig ar eu hanghenion. I wneud hyn, mae’n rhaid i iechyd a gofal cymdeithasol weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.
Mae’n rhaid i wasanaethau yng Nghymru fabwysiadu dull iechyd cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar y cleient, sy'n seiliedig ar gryfderau, tuag at gamddefnyddio sylweddau (gan gynnwys cyffuriau ac alcohol). Mae hyn yn golygu mynd i'r afael â lleihau niwed, atal a thriniaeth. Y nod yw lleihau niwed a hyrwyddo adferiad tymor hir. O dan y cynllun hwn, mae'r meysydd blaenoriaeth yn cynnwys:
- ymateb i broblemau iechyd meddwl sy'n digwydd ar yr un pryd â chamddefnyddio sylweddau
- cefnogi teuluoedd/gofalwyr camddefnyddwyr sylweddau
- gwella mynediad at gymorth a thriniaeth.
Dyluniwyd Pecyn Cymorth Diogelu Cymhleth i Ymarferwyr Cymru i gyd-fynd â’r canllawiau polisi ac ymarfer yng Nghymru.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
O dan Ddeddf Llesiant Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014, mae’n rhaid i ymarferwyr iechyd weithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i wella'r canlyniadau llesiant i bobl ifanc. Mae'r Ddeddf yn cryfhau’r pŵer diogelu ac yn sail iddo y mae ymagwedd hawl plentyn lle y mae gan bobl ifanc hawl i:
Os ydyn nhw’n amau bod person ifanc yn cael ei ecsbloetio’n droseddol, rhaid i ddarparwyr gofal iechyd riportio person ifanc i’r awdurdod lleol. I wneud hyn mae'n rhaid iddyn gael mynediad at hyfforddiant priodol i'w helpu i nodi dioddefwyr posibl o gamfanteisio. Dylai fod ganddyn nhw staff sy'n gyfrifol am ddiogelu ac sydd â chysylltiadau â gwasanaethau a sefydliadau lleol a chenedlaethol arbenigol.
Dylai pob darparwr gofal iechyd: