Ewch i’r prif gynnwys

Y Gwyddorau Gofal Iechyd

Mae gan ymarferwyr iechyd rôl bwysig o ran adnabod ac amddiffyn pobl ifanc rhag camfanteisio troseddol.

Mae angen i ymarferwyr fod yn chwilfrydig am yr hyn sydd wedi digwydd i’r person ifanc. Dylai diogelu gael ei ymgorffori’n rhan o drefniadau arferol ar draws yr holl wasanaethau iechyd gan gynnwys meddygon teulu, deintyddion, optegwyr ac adrannau ysbytai.

Mae’n bosibl mai dim ond ychydig funudau fydd gan ymarferwyr iechyd pan fydd y plentyn yn teimlo’n ddigon diogel i ofyn am help neu ei dderbyn. Dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol, er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn destun camfanteisio troseddol gan ddieithriaid neu gyfoedion, bod rhai yn profi camfanteisio gan aelodau o’r teulu, er enghraifft ewythrod, cefndryd neu frodyr a chwiorydd. Felly, dylent ystyried siarad â phobl ifanc o dan 16 i ffwrdd o’u perthnasau.

Os oes amheuaeth bod camfanteisio ar bobl ifanc dros 16 oed yn digwydd, dylai ymarferwyr ddefnyddio ciwbiclau preifat fel na all pobl eraill eu clywed.

Mae’n bosibl na fydd rhai pobl ifanc yn barod i ofyn am gymorth neu ei dderbyn. Fodd bynnag, gall profiad cadarnhaol eu gwneud yn fwy tebygol o ofyn am gymorth neu ei dderbyn ar ymweliadau gofal iechyd dilynol.

Canllawiau i ymarferwyr gofal iechyd

Am ganllawiau pellach i ymarferwyr gofal iechyd, gan gynnwys arwyddion rhybuddio ar gyfer camfanteisio’n droseddol ar blant, gweler tudalennau 52-56 o’r Pecyn Cymorth i Ymarferwyr.

Pecyn Cymorth Ymarferydd Diogelu Cymru Cymhleth

Datblygwyd y pecyn cymorth hwn fel rhan o astudiaeth Ymchwil Gofal Iechyd Cymru a ariannwyd i gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru, ac sydd â'r nod o wella ymatebion ymarferwyr.