Arwyddion rhybuddio i weithwyr addysg proffesiynol
Mae angen i ymarferwyr addysg fod yn effro i arwyddion rhybuddio camfanteisio troseddol ar blant.
Mae’n bosibl y bydd ymarferwyr addysg yn sylwi bod disgyblion a arferai fod yn sylwgar yn ymddieithrio oddi wrth addysg. Ond i’r gwrthwyneb, gall disgyblion a fu gynt yn aflonyddgar ddod yn sylwgar gan fod camfanteiswyr yn dechrau hyfforddi disgyblion i aros yn yr ysgol ac osgoi sylw gan athrawon.
Mae arwyddion rhybuddio ar gyfer ymarferwyr addysg yn cynnwys:
- patrwm o gofrestriadau tymor byr dro ar ôl tro mewn ysgolion, gallai hyn fod am dymor neu am gyfnod hwy.
- anafiadau anesboniadwy a symptomau annelwig
- hunan-niweidio neu arwyddion o drawma arall.
Gall pobl ifanc fod yn
- amwys am eu bywydau
- amharod i rannu unrhyw wybodaeth bersonol.
Efallai y byddan nhw’n amharod i ddatgelu'r hyn sy'n digwydd oherwydd ofn am yr hyn a fydd yn digwydd iddynt eu hunain neu i'w teuluoedd.
Efallai y bydd addysgwyr yn sylwi eu bod yn ailadrodd straeon tebyg i eraill, neu'n defnyddio termau nad ydyn nhw’n eu deall, oherwydd efallai eu bod wedi cael eu hyfforddi o ran yr hyn i'w ddweud gan y sawl sy’n camfanteisio arnyn nhw.
Dylai ymarferwyr addysg chwilio am newidiadau mewn ymddygiad, ymddangosiad neu eiddo newydd heb ei esbonio:
Dyluniwyd Pecyn Cymorth Diogelu Cymhleth i Ymarferwyr Cymru i gyd-fynd â’r canllawiau polisi ac ymarfer yng Nghymru.