Ewch i’r prif gynnwys

Ffactorau risg ym maes addysg

Mae amrywiaeth o ffactorau risg ychwanegol y dylai ymarferwyr addysg fod yn effro iddyn nhw.

Ffactorau risg ym maes addysg

Bod yn fwy agored i niwed

Mae’n rhaid i ymarferwyr addysg fod yn effro i’r risg uwch pan fydd pobl ifanc yn wynebu amrywiaeth o heriau neu amgylchiadau anodd, gan gynnwys mabwysiadu dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau i gefnogi’r bobl ifanc hyn. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, cyfraddau presenoldeb amrywiol a phrofiad o symudiadau wedi’u rheoli a gwaharddiadau dros dro neu barhaol.

Pontio

Mae camfanteiswyr yn targedu pobl ifanc pan fyddan nhw’n teimlo’n agored i niwed. Gallen nhw fod yn poeni ynghylch gwneud ffrindiau newydd, ymgartrefu mewn lleoliad newydd neu deithio’n annibynnol i’r ysgol ac oddi yno. Dylai cymorth ychwanegol gael ei gynnig cyn, yn ystod ac ar ôl pontio o addysg gynradd i addysg uwchradd ac wrth symud o addysg uwchradd i’r coleg.

Meithrin perthynas amhriodol wrth gatiau’r ysgol

Gallai camfanteiswyr aros y tu allan i gatiau’r ysgol a defnyddio cyn-ddisgyblion neu frodyr a chwiorydd hŷn i feithrin perthynas amhriodol â disgyblion iau. Dylai lleoliadau addysg gymryd camau i ddiogelu pobl ifanc yn ystod y daith i’r ysgol ac oddi yno. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod staff yr ysgol ar gael cyn ac ar ôl yr ysgol a gweithio gyda'r gymuned leol i ddiogelu pobl ifanc.

Gwahardd o’r ysgol

Mae gwahardd o’r ysgol yn gysylltiedig â chamfanteisio’n droseddol ar blant. Mae hyn yn rhannol am fod pobl ifanc sy’n agored i niwed yn cael eu gorgynrychioli yn y ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol.

Yn ôl ein hadolygiad ar gyfer Uned Atal Trais Cymru (Maxwell a Corliss, 2020), mae gwahardd o'r ysgol yn cynnwys:

  • hunan-wahardd, lle mae pobl ifanc yn aros gartref er mwyn osgoi cael eu bwlio
  • gwahardd gwirfoddol, lle mae gofyn i’r rhieni gadw eu plentyn gartref fel ymateb i ymddygiadau problemus
  • gwahardd anghyfreithlon, lle mae pobl ifanc yn cael eu hanfon adref yn fath o ddisgyblaeth, naill ai am gyfnod byr, am gyfnod amhenodol neu’n barhaol
  • symudiad wedi’i reoli, lle nad yw’r ysgol yn gallu rheoli’r person ifanc ac yn trefnu iddo gael ei drosglwyddo i leoliad addysg arall

Mae gwahardd o’r ysgol yn golygu llai o oruchwyliaeth broffesiynol a mwy o amser heb strwythur a goruchwyliaeth i’r person ifanc. Mae’n golygu bod mwy o bobl ifanc ar gael i gamfanteiswyr, ac mae’n rhaid i ymarferwyr addysg ystyried effaith gwahardd o’r ysgol ar gyfleoedd a hunanwerth pobl ifanc yn y dyfodol:

Mae gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan o rywbeth yn yr ysgol lle maen nhw'n meithrin eu cyfeillgarwch ac, er enghraifft, eu cofrestru mewn clybiau – gan roi ymdeimlad o gyfrifoldeb iddyn nhw – yn rhywbeth y gallan nhw deimlo’n rhan ohono

Cyfweliad gyda pherson ifanc