Ewch i’r prif gynnwys

Polisi addysg a chanllawiau ymarfer

Mae gan bobl ifanc yr hawl i addysg.

Diben erthyglau 28 a 29 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yw datblygu personoliaeth, talentau a galluoedd meddyliol a chorfforol person ifanc hyd yr eithaf.

Yng Nghymru, mae addysg yn cael ei harwain gan sawl darn o ddeddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Addysg 2002, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cydraddoldeb 2010. At hyn, ceir dyletswyddau cyfreithiol y canllawiau statudol, 'Cadw Dysgwyr yn Ddiogel' (2021).

Deddf Addysg 2002

Yn unol ag adran 175 o Ddeddf Plant 2002, mae gan Weinidogion Cymru bwerau i ddiogelu plant a phobl ifanc a hyrwyddo eu lles.

Person Diogelu Dynodedig (DSP).

Dylai fod gan bob lleoliad addysg neu ddarpariaeth amgen Berson Diogelu Dynodedig sydd â chyfrifoldeb arweiniol dros ddiogelu. Mae gan y Person gyfrifoldebau strategol sy'n cynnwys gweithio gydag asiantaethau eraill i gefnogi gwaith amlasiantaethol effeithiol a chyfrannu at ymatebion cydgysylltiedig i ddiwallu anghenion pobl ifanc.

Llywodraethwyr Ysgolion a Cholegau neu Bwyllgorau Rheoli

Dylai pob llywodraethwr ysgol a choleg neu bwyllgor rheoli gael hyfforddiant perthnasol ar ddiogelu ac amddiffyn plant. Dylai hyn gynnwys lleiafswm o fodiwlau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (2021) ac anelu at ddealltwriaeth ddigonol o gamfanteisio’n droseddol ar blant i gyflawni eu dyletswyddau diogelu i'r ysgol, y coleg neu'r lleoliad addysg.

Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol (EOTAS)

Darpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol yw addysg sy’n anelu at ddiwallu anghenion pobl ifanc nad ydyn nhw’n gallu mynd i ysgol prif ffrwd. Hwyrach y bydd hyn yn cynnwys Unedau Atgyfeirio Disgyblion, llwybrau unigol a mathau eraill o ddarpariaeth yn y sector gwirfoddol neu annibynnol, ond nid yw'n gyfyngedig i’r rhain

Cadw Dysgwyr yn Ddiogel 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu'r cyfrifoldebau diogelu sydd gan ymarferwyr addysg yn y canllawiau statudol, 'Cadw Dysgwyr yn Ddiogel' (2021). Mae’n rhaid i feithrinfeydd, ysgolion, cyrff llywodraethu, colegau addysg bellach ac awdurdodau lleol ddilyn y canllawiau hyn. Argymhellir y canllawiau hefyd i wasanaethau ieuenctid, darparwyr dysgu yn y gweithle, darparwyr Addysg Heblaw yn yr Ysgol a darparwyr addysg uwch.

Mae'r canllawiau'n nodi bod gan leoliadau addysg ddyletswydd gyfreithiol i amddiffyn a hyrwyddo lles pobl ifanc hyd at 18 oed. Mae'r canllawiau hyn yn defnyddio Deddf Llesiant Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.

Gweithio mewn partneriaeth amlasiantaethol

Mae lleoliadau addysg yn cael eu hystyried yn rhan o'r system ddiogelu ehangach ar gyfer pobl ifanc, yn enwedig oherwydd ei bod yn bosibl mai nhw yw'r unig asiantaeth sy'n ymwneud â phobl ifanc a'u teuluoedd. Maen nhw’n cael eu hystyried yn lle delfrydol i ganfod pryderon cynnar, cynnig cymorth a chefnogaeth a gwneud atgyfeiriadau priodol.

Mae’n rhaid i leoliadau addysg weithio gydag awdurdodau lleol, yr heddlu, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed.

Egwyddorion gweithio aml-asiantaeth effeithiol

Gan fod camfanteisio'n droseddol ar blant yn fater trawsbynciol, mae diogelu cymhleth effeithiol a ddarperir gan bartneriaid aml-asiantaeth yn hanfodol.

Siarad ag addysgwyr

Sut i fynd at addysgwyr pan fydd plant yn destun camfanteisio troseddol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n rhaid i staff addysg ganolbwyntio ar waith ataliol i leihau effaith yr hyn a elwir yn 'Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod' (y Profiadau). Profiadau yn ystod plentyndod yw'r rhain sy'n niweidio person ifanc yn uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys niwed i'r person ifanc megis cam-drin neu esgeuluso plant yn ogystal â niwed y maen nhw’n ei brofi yn y cartref megis rhieni’n camddefnyddio sylweddau neu rieni'n gwahanu. Mae hyn yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil sy'n awgrymu bod y Profiadau hyn yn cael effaith negyddol ar ddatblygiad plant ac y gallai arwain at anawsterau iechyd yn nes ymlaen yn eu bywydau (Bellis et al., 2015).

Er ei bod yn bosibl bod presenoldeb y Profiadau yn dangos bod person ifanc mewn mwy o berygl o gael ei baratoi at ddibenion camfanteisio'n troseddol ar blant, mae'r Strategaeth Trais Difrifol (Llywodraeth EM, 2018) wedi rhybuddio rhag defnyddio ffactorau risg i ragweld ymddygiad yn y dyfodol.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff llywodraethu a darparwyr addysg i sicrhau nad yw eu hymarfer yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ifanc sy'n ddisgyblion mewn ysgol neu sy'n gwneud cais i ysgol. Mae'r Ddeddf yn diogelu pawb rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig sy'n cynnwys anabledd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae'r Ddeddf hefyd yn ystyried anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol.

Mae'r cyfrifoldeb hwn yn bodoli hyd yn oed pan fydd pobl ifanc yn absennol, wedi cael eu gwahardd dros dro ac mae'n cynnwys cyn-ddisgyblion y lleoliad addysg.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn rhoi fframwaith statudol i awdurdodau lleol, darparwyr addysg, cyrff llywodraethu, timau troseddau ieuenctid a darparwyr iechyd. Ei nod yw cefnogi pobl ifanc y mae ganddyn nhw anghenion dysgu ychwanegol. Daeth i rym ym mis Medi 2021 gan ddisodli'r hen fframwaith a oedd yn ymwneud ag anghenion addysgol arbennig.

Cynllun Dysgu Unigol (CDU)

Mae Adran 10 o'r Ddeddf yn nodi y dylid creu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) i bob person ifanc hyd at 25 oed y mae ganddo angen dysgu ychwanegol, waeth beth fo'r difrifoldeb.

Mae Cynlluniau Datblygu Unigol yn cymryd lle Datganiadau a Chynlluniau Addysg Unigol i blant a phobl ifanc yn system Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.

Mae darparwyr addysg yn gyfrifol am adnabod pobl ifanc y mae ganddyn nhw anghenion dysgu ychwanegol. Dylai'r cynllun gael ei adolygu'n rheolaidd a'i ddiweddaru i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn neu'r person ifanc, pan fo hynny'n briodol. Dyma gyfrifoldeb naill ai ysgolion neu awdurdodau lleol.