Gweithio gyda theuluoedd
Hyd yn oed pan ystyrir bod rhieni yn gallu cefnogi eu plant, mae camfanteisio’n droseddol ar blant yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gall rhieni ei gefnogi ar eu pennau eu hunain.
Yn unol â Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) (2015) dylai awdurdodau lleol ymyrryd yn yr achosion hyn.
Ni ddylai ymarferwyr roi’r bai ar rieni.
Mae rhieni’n aml yn cael eu hasesu pan fydd y risg o niwed y tu allan i gyd-destun y teulu, neu yn y gymuned gan gyfoedion neu oedolion hŷn. Os gwneir i rieni deimlo eu bod yn rhan o’r broblem, bydd hynny’n effeithio’n andwyol ar feithrin perthynas ymddiriedus â rhieni ac ar weithio mewn partneriaeth. Hwyrach y bydd hyn hefyd yn rhwystro’r cyfleoedd iddyn nhw gael cymorth a chefnogaeth:
Technegau rhianta
Mae camfanteiswyr yn cymryd mantais ar y canlynol:
- yr heriau ynghlwm wrth feithrin pobl ifanc yn eu harddegau.
- dylanwad cynyddol cyfoedion
- cylch gorchwyl y gwasanaeth, ffyrdd o weithio a throthwyon
Weithiau, bydd dweud wrth rieni am orfodi ffiniau neu oblygiadau yn wrthgynhyrchiol. Mae’n bosibl y bydd yn gwthio pobl ifanc tuag at y camfanteiswyr.
Dywedir wrth bobl ifanc mai'r camfanteiswyr yw eu ‘teulu newydd’, ac mai dim ond y camfanteiswyr sy’n gofalu amdanyn nhw a’u bod yn dymuno iddyn nhw wneud yn dda. Pan fydd rhieni’n herio pobl ifanc ac yn ceisio gosod ffiniau, mae’n bwydo i mewn i’r naratif hon, ac yn tynnu pobl ifanc ymhellach oddi wrth eu teuluoedd.
Dylai ymarferwyr y Gwasanaethau Plant gefnogi rhieni i gadw perthynas â’u plentyn y camfanteisiwyd yn droseddol arno. Dylai hyn gynnwys mabwysiadu naratifau sy’n mynd yn groes i ymdrechion camfanteiswyr i ynysu’r person ifanc o’i deulu, ond heb herio’r rhain.
Dyluniwyd Pecyn Cymorth Diogelu Cymhleth i Ymarferwyr Cymru i gyd-fynd â’r canllawiau polisi ac ymarfer yng Nghymru.