Ewch i’r prif gynnwys

Adnabod y risg o niwed

Gweithwyr cymdeithasol sy’n gyfrifol am asesu risg o niwed a phenderfynu a oes angen trafodaeth aml-asiantaeth.

Mae’n rhaid i weithwyr cymdeithasol weld y tu hwnt i’r dystiolaeth weledol o weithgaredd troseddol i nodi risg posib o niwed. Gall hyn fod yn heriol, oherwydd:

  • gall y risg o niwed oherwydd camfanteisio troseddol ar blant newid yn gyflym
  • mae hyn yn digwydd yn aml y tu allan i oriau swyddfa arferol, gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Mae’n rhaid i weithwyr cymdeithasol fod ar gael i gefnogi pobl ifanc pan fyddan nhw mewn argyfwng. Mae’n rhaid iddyn nhw sefydlu cysylltiadau neu systemau fel y gall pobl ifanc gael mynediad at eu gweithiwr cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa.

Er y gall offer asesu arwain casglu gwybodaeth, gall pobl ifanc sy'n profi camfanteisio troseddol gyflwyno cyfres o bryderon yn hytrach na ffactorau risg gwirioneddol. Gall y risg o niwed amrywio, a gall gymryd wythnosau lawer i adeiladu ymddiriedaeth a meithrin perthynas â’r person ifanc cyn nodi’r risgiau. Mae rhai pobl ifanc yn ymddangos gyda lefel isel o risg er eu bod yn destun lefelau uchel o niwed yn sgil camfanteisio troseddol.

Meithrin perthnasoedd

Mae’n rhaid i weithwyr cymdeithasol ddatblygu perthynas â’r person ifanc ac adeiladu ymddiriedaeth gan ddefnyddio technegau casglu gwybodaeth penagored i gael tystiolaeth sy’n ymwneud â risg. Dylid defnyddio gweithwyr ieuenctid ac asiantaethau trydydd sector i gefnogi pobl ifanc, cyfrannu at ddiogelu, monitro risg a rhybuddio gweithwyr cymdeithasol os yw hyn yn cynyddu.

Mae gan rai awdurdodau lleol brotocolau neu brosesau yn eu lle ar gyfer pobl ifanc y mae amheuaeth eu bod yn profi camfanteisio troseddol ond nad ydyn nhw’n cyrraedd trothwyon gwasanaethau. Mae’r protocolau hyn yn sicrhau bod y person ifanc yn derbyn cefnogaeth brydlon gyda’r nod o atal cynnydd mewn camfanteisio.

Camfanteisio Troseddol ar Blant Offeryn Asesu Cymraeg

Mae’r Offeryn Asesu Camfanteisio’n Droseddol ar Blant wedi’i anelu at helpu ymarferwyr i gofnodi eu pryderon pan fydd amheuaeth bod camfanteisio’n droseddol ar blant yn digwydd.