Canllawiau sy’n benodol i sector
O dan y canllawiau statudol Gweithio Gyda’n Gilydd (Working Together), mae pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn gyfrifol am ddiogelu.
Bydd gweithwyr proffesiynol gwahanol yn gweld arwyddion rhybudd gwahanol ymhlith plant sy’n destun camfanteisio troseddol. Er enghraifft, hwyrach y bydd athro yn sylwi ar newidiadau mewn ymddygiad neu absenoldeb o’r ysgol a bydd gweithiwr iechyd proffesiynol hwyrach yn sylwi ar glwyfau neu anafiadau amddiffynnol ar gorff y person ifanc. Dim ond pan fydd gweithwyr proffesiynol yn rhannu'r wybodaeth hon y bydd modd iddyn nhw greu darlun llawn o'r hyn sy'n digwydd i'r plentyn.
Mae’r adrannau hyn yn y wefan yn rhoi gwybodaeth fanwl am y ffactorau sy’n benodol i’r sector:
- arwyddion rhybuddio bod camfanteisio troseddol ar blant yn digwydd.
- rolau a chyfrifoldebau diogelu
- polisi ac arweiniad perthnasol o ran ymarfer.
Dyluniwyd Pecyn Cymorth Diogelu Cymhleth i Ymarferwyr Cymru i gyd-fynd â’r canllawiau polisi ac ymarfer yng Nghymru.