Ewch i’r prif gynnwys

Siarad â phobl ifanc

Rhaid i ymarferwyr osgoi unrhyw iaith sy’n awgrymu bod bai ar bobl ifanc.

Pan fydd ymarferwyr yn siarad â phobl ifanc a’u rhieni, mae’n bwysig defnyddio iaith gynhwysol sy’n seiliedig ar gryfderau.

Mae camfanteisio troseddol ar blant yn digwydd hyd yn oed pan fo gweithgareddau’n ymddangos yn gydsyniol wrth i gamfanteiswyr gymryd mantais ar fregusrwydd pobl ifanc: tlodi, diffyg cyfalaf cymdeithasol, ofn. Ond gall termau megis ‘camfanteisio troseddol ar blant’, ‘llinellau siriol’ a ‘masnachu pobl’ ddrysu a dieithrio pobl ifanc a’u rhieni. Efallai na fydd pobl ifanc yn sylweddoli, neu’n barod i dderbyn, eu bod yn cael eu hecsbloetio, a gallan nhw wrthod y syniad mai dioddefwr ydyn nhw.

Yn hytrach, efallai y bydd pobl ifanc yn gweld eu gweithredoedd eu hunain yn rhai entrepreneuraidd, neu o ganlyniad i gael cyfleoedd cyfreithlon cyfyngedig i ennill arian. Efallai na fyddan nhw’n sylweddoli eu bod yn rhan o grŵp troseddu trefnedig, yn enwedig os ydyn nhw’n isel yn yr hierarchaeth.

Mae’r termau ynglŷn â chamfanteisio’n droseddol ar blant yn amrywio yn ôl rhanbarth. Mae llawer o’r termau hyn wedi gwneud eu ffordd i mewn i slang, felly ni fydd pob person ifanc sy’n eu defnyddio yn cael eu hecsbloetio.

Felly, dylai ymarferwyr ddefnyddio iaith sy’n gyfforddus i bobl ifanc.

Osgowch iaith sy’n bwrw’r bai ar y dioddefwyr

Hyd yn oed ymhlith ymarferwyr eraill, rhaid i chi osgoi iaith amwys.

Nid yw pobl ifanc

  • yn ‘ymgymryd’ â throsedd: maen nhw wedi’u paratoi at ddibenion amhriodol
  • yn cael eu 'recriwtio': mae troseddwyr yn camfanteisio arnyn nhw
  • yn 'peryglu eu hunain': maen nhw’n cael eu gorfodi
  • yn ‘mynd yn ôl at bwy sy’n camfanteisio arnyn nhw’: maen nhw'n cael eu rheoli
  • yn 'mynd ar goll dro ar ôl tro': maen nhw’n cael eu masnachu