Cyfnodau o fynd ar goll
Cyfnodau o fynd ar goll yw'r dangosydd mwyaf bod plentyn yn cael ei ecsbloetio.
Mae dros 10,000 o achosion o blant a phobl ifanc sydd ar goll yn cael eu hadrodd bob blwyddyn yng Nghymru (Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, 2020).
Mae pobl ifanc yn mynd ar goll neu'n rhedeg i ffwrdd am amrywiaeth o resymau. Mae hyn yn cynnwys rhedeg i ffwrdd o broblem neu ddigwyddiad neu redeg i le maen nhw eisiau bod, neu gallan nhw gael eu gorfodi, neu eu twyllo gan unigolyn neu grŵp i adael eu cartref (Y Swyddfa Gartref, 2014).
Mae rhai pobl ifanc yn fwy tebygol o fynd ar goll nag eraill. Mae hyn yn cynnwys:
- pobl ifanc mewn cartrefi gofal preswyl.
- pobl ifanc sy'n cael eu lleoli mewn gofal preswyl y tu allan i'r ardal.
- pobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches.
Efallai y bydd pobl ifanc yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ddiflannu i oroesi ac osgoi niwed i'w hunain a'u teuluoedd. Mae’r rhai sy’n camfanteisio yn fedrus wrth guddio ymatebion gwasanaeth oherwydd eu gwybodaeth fanwl am drothwyon a phrosesau'r gwasanaeth.
Ni ddylid trin mynd ar goll yn annibynnol ar fathau eraill o risg ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc. Mae canllaw ymarfer Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gyfer pobl ifanc sy'n mynd ar goll o'r cartref neu ofal (2019) yn nodi y dylai pobl ifanc gael cynnig Cyfweliad Dychwelyd Adref, ond nid yw hyn yn ofyniad statudol.
Cyfweliadau Dychwelyd Adref
Dylid cynnal Cyfweliadau Dychwelyd Adref o fewn 72 awr ar ôl dod o hyd i'r person ifanc. Dylai gweithwyr proffesiynol ystyried:
- pwy ddylai gynnal y Cyfweliad Dychwelyd Adref yn seiliedig ar ddymuniadau'r person ifanc
- gall pobl ifanc fod yn wyliadwrus o siarad â'r heddlu
- gall pobl ifanc fod yn dawel neu wrthod rhannu gwybodaeth oherwydd ofn
- y risgiau posibl i’r person ifanc o siarad â gweithwyr proffesiynol.