Ewch i’r prif gynnwys

Ffactorau risg unigol

Mae unrhyw berson ifanc o unrhyw oedran, rhyw, ethnigrwydd neu gefndir yn agored i gael ei gamfanteisio arno’n droseddol.

Mae ecsbloetwyr yn targedu pobl ifanc sy'n agored i niwed oherwydd eu hanghenion sydd heb eu diwallu neu oherwydd diffyg eu cyfalaf cymdeithasol a’u cynhwysiant cymdeithasol. Mae’n rhaid i ymarferwyr ddysgu'r ffactorau risg sy'n dynodi pobl ifanc sydd hwyrach mewn perygl o fod yn destun camfanteisio’n droseddol.

8 ffactor risg

1. Oedran

Fel arfer, bydd pobl ifanc yn cael eu targedu rhwng 13 a 18 oed, ond mae newid wedi bod i gyfeiriad plant iau.

2. Cam-drin

Mae’n bosibl bod pobl ifanc yn agored i niwed oherwydd cam-drin emosiynol, corfforol, rhywiol neu esgeulustod.

3. Anghenion ychwanegol

Bydd perthynas amhriodol yn cael ei meithrin yn achos pobl ifanc oherwydd eu hanawsterau wrth wneud ffrindiau neu fod yn naïf

4. Yn cael eu lleyta

Pobl ifanc sy’n derbyn gofal, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu rhoi mewn hosteli yn sgil methiant gofal teulu neu ofal maeth, a cheiswyr lloches ar eu pennau eu hunain.

5. Awdurdodyddol

Pobl ifanc sy’n destun rheolaethau llym neu’n dilyn colli rhyddid naill ai gan rieni, gofalwyr neu’r awdurdod lleol.

6. Wedi’u dieithrio

Pobl ifanc sydd â hunan-barch neu hyder isel gan gynnwys y rheini â chyfalaf cymdeithasol isel.

7. Ymaddasol

Ystyr y term ‘pobl anhysbys (ghost) ifanc’ yw’r rheini nad yw gwasanaethau yn gwybod amdanyn nhw. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc o gartrefi cefnog, merched, pobl ifanc sydd wedi'u heithrio o’r ysgol, a myfyrwyr prifysgol.

8. Oedolyneiddio

Pobl ifanc sy’n cael eu hystyried yn fwy aeddfed na’u cyfoedion, er enghraifft, pobl Ddu ifanc neu bobl ifanc sy’n derbyn gofal.