Ffactorau risg teuluol a chymunedol
Mae camfanteisio’n droseddol ar blant yn fath o niwed y tu allan i’r teulu.
Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o blant yn destun camfanteisio gan bobl nad ydyn nhw’n gysylltiedig â’r teulu.
Ffactorau risg cymunedol
Fel arfer, bydd camfanteisio’n digwydd y tu allan i’r cartref. Mae pobl ifanc yn cael eu meithrin mewn perthynas amhriodol yn y gymuned leol drwy gyfeillgarwch, pwysau cyfoedion neu pan fydd cyfoedion hŷn yn rhoi arian iddyn nhw, yn mynd â nhw allan am fwyd neu’n cael diwrnodau allan gyda nhw.
Hwyrach y bydd hyn yn digwydd mewn parciau neu yn yr ysgol gan bobl y maen nhw’n eu hadnabod, ar y stryd gan ddieithriaid neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Perthnasoedd teuluol
Er bod ymchwil wedi dangos bod teuluoedd cefnogol yn ffactor sy’n amddiffyn pobl ifanc, mae modd camfanteisio’n droseddol ar unrhyw blentyn waeth beth fo’i gefndir teuluol. Mae camfanteisio’n droseddol ar blant yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gall teulu ei reoli; yn aml, bydd rhieni’n mynd yn ddioddefwyr eilaidd.
Mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol:
- fod yn chwilfrydig yn broffesiynol am bob person ifanc
- bod yn effro i’r arwyddion risg sy’n ymwneud â chamfanteisio troseddol.
- bod yn ymwybodol o ystrydebau anghywir yn y cyfryngau, e.e. bechgyn, gangiau, tlodi, lleiafrifoedd ethnig.
Felly, mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol wrando ar rieni a deall eu bod yn rhan o’r ymateb amlasiantaethol.
Perygl i’r teulu
Yn aml, bydd rhieni’n ddioddefwyr eilaidd oherwydd natur ac effaith camfanteisio troseddol ar blant. Mae’n bosibl y bydd y rhai sy’n camfanteisio yn codi ofn ar rieni ac yn eu bygwth yn eu cartrefi neu yn eu gweithleoedd, yn enwedig os yw’r bobl ifanc wedi cael eu symud o’r ardal er mwyn eu hamddiffyn. Felly, roedd llety gwirfoddol yn rhoi aelodau o’r teulu mewn perygl o drais.
Mae’n bosibl y bydd rhieni’n amharod i ddweud wrth y gwasanaethau beth sy’n digwydd neu roi gwybod bod eu plentyn ar goll rhag ofn y bydd hyn yn arwain at:
- niwed i’w plentyn gan y bobl sy’n camfanteisio arnyn nhw
- y plentyn yn cael ei arestio
- ymyraethau amddiffyn plant.
Mae hyn yn rhoi rhieni mewn sefyllfa anodd, sef maen nhw eisiau amddiffyn eu plentyn ond heb wybod sut i wneud hyn yn ddiogel.
Ffactorau risg ar lefel y teulu
Bydd camfanteiswyr yn targedu pobl ifanc pan fyddan nhw ar eu mwyaf agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys yr adegau pan fyddan nhw’n cael problemau gartref, megis rhieni sy’n gwahanu neu pan fydd rhieni’n cael problemau sy’n effeithio ar eu gallu i rianta’n effeithiol, megis:
- problemau iechyd meddwl
- problemau camddefnyddio sylweddau
- Cam-drin domestig.
Hwyrach y bydd pobl ifanc yn cael eu meithrin mewn perthynas amhriodol gan berthnasau hŷn fel brodyr a chwiorydd neu gefndryd. Mae’n bosibl y bydd brodyr a chwiorydd ifanc yn cael eu bygwth er mwyn rheoli’r person ifanc sy’n dioddef y camfanteisio, neu efallai y bydd brodyr a chwiorydd iau yn etifeddu eu dyled i’r sawl sy’n camfanteisio.
Hefyd, mae’n bosibl y bydd camfanteiswyr yn dylanwadu ar rieni i ddod yn gyfeillion neu i ddefnyddio cyfeillgarwch presennol i dargedu eu plant. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n anodd i rieni wybod pwy y gallan nhw ymddiried ynddo.
Darllenwch ein blog i ddarganfod mwy am ymchwil i'r profiad o riant plentyn sy'n cael ei ecsbloetio'n droseddol.