Dod o hyd i gamfanteisio troseddol ar blant
Nid oes diffiniad cyffredinol o ran beth yw camfanteisio’n droseddol ar blant.
Mae'n anodd dod o hyd i gamfanteisio oherwydd:
- mae’n bosibl i unrhyw blentyn fod yn destun camfanteisio waeth beth fo'i oedran, ei ryw, ei ethnigrwydd neu’i gefndir economaidd-gymdeithasol
- yn anaml y bydd un digwyddiad unigol sy'n dangos bod person ifanc yn destun camfanteisio
- bydd pobl ifanc yn destun camfanteisio gan ddieithriaid, oedolion y maen nhw’n eu hadnabod neu gyfoedion neu aelodau o'r teulu.
Mae hefyd yn anodd dod o hyd i hyn oherwydd bod mathau gwahanol o gamfanteisio’n effeithio hwyrach ar berson ifanc ar yr un pryd. Ni fydd yr un gweithiwr proffesiynol yn meddu ar yr holl wybodaeth angenrheidiol i allu dod o hyd i gamfanteisio troseddol ar blant. Mae hyn yn golygu bod rhannu gwybodaeth amlasiantaethol a chydweithio’n hollbwysig er mwyn dod o hyd i bobl ifanc a’u hamddiffyn.
Mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol fynd y tu hwnt i'r hyn y gallan nhw ei weld, gan ddefnyddio eu chwilfrydedd i ystyried yr hyn a allai fod yn digwydd ym mywyd y plentyn.
Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth fwyaf priodol sy’n gweddu i’r cam-drin y maen nhw wedi’i ddioddef.
Camfanteisio’n droseddol ar blant
Yng Nghymru, mae gweithwyr proffesiynol yn defnyddio'r diffiniad yn y Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan er Diogelu Plant rhag Camfanteisio’n Droseddol ar Blant.
Mae chwe rhan i’r diffiniad hwn:
1. Caethwasiaeth fodern a masnachu pobl
Math o gamfanteisio’n droseddol ar blant yw caethwasiaeth fodern. Mae caethwasiaeth fodern yn cyfeirio at:
- gorfodi, defnyddio grym neu gamfanteisio ar bobl ifanc
- cymryd, trosglwyddo neu lochesu pobl ifanc
- defnyddio grym, gorfodaeth, dichell neu anghydbwysedd grym.
Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur dan orfod a gorfodol a masnachu pobl (Swyddfa Gartref, 2019). Gellir ei defnyddio at ddibenion camfanteisio troseddol, ariannol neu rywiol yn ogystal â llafur dan orfod, caethwasanaeth domestig, dwyn o siopau neu dwyll.
Mae masnachu plant ar gynnydd yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2019). Mae'n effeithio ar:
- Gwladolion Prydeinig a gwladolion nad ydyn nhw’n Brydeinig, gan gynnwys ceiswyr lloches ar eu pen eu hunain.
- ni all pobl roi cydsyniad ar sail penderfyniad cytbwys i gymryd rhan mewn troseddau dan orfod neu gael eu cam-drin neu eu masnachu.
Nid symudiadau rhyngwladol yn unig sydd ynghlwm wrth fasnachu pobl. Gellir masnachu pobl ifanc o’r naill stryd i'r llall mewn ardal leol.
2. Cyfnewid yn elfen
Mae camfanteisio'n droseddol ar blant yn cynnwys cyfnewid, a bydd weithiau’n cynnwys cyfnewid rhywbeth:
- diriaethol fel esgidiau hyfforddi, nwyddau brand, addo ‘arian hawdd’
- anniriaethol fel teimlo’n ddiogel, perthyn i ‘deulu’ ehangach gang, hunaniaeth neu statws
- atal trais, er enghraifft trais yn erbyn aelod o’r teulu.
3. Gweithgarwch troseddol
Mae hyn yn cynnwys ystod o weithgareddau megis:
- gwerthu a chludo cyffuriau
- dwyn
- bwrgleriaeth
- cael eich gorfodi i agor cyfrif banc at ddibenion gwyngalchu arian.
4. Trais
Mae’n bosibl y bydd bygythiadau neu drais go iawn yn erbyn:
- y person ifanc
- ei gariad
- aelodau'r teulu
Efallai y bydd pobl ifanc yn rhy ofnus i ofyn am gymorth neu siarad â gweithwyr proffesiynol rhag ofn y bydd y bobl sy'n camfanteisio arnyn nhw’n cael gwybod am hyn.
5. Dioddefwyr yn ogystal â chyflawnwyr
Mae’n bosibl i blant a phobl ifanc sy’n cael eu camfanteisio’n droseddol fod yn ddioddefwyr ac yn gyflawnwyr.
Efallai y byddan nhw’n cael eu gorfodi i wneud bygythiadau neu ddefnyddio trais tuag at bobl eraill. Efallai y byddan nhw’n gwneud hyn er mwyn atal eu hunain neu eu teuluoedd rhag mynd yn ddioddefwyr.
6. Camfanteisio llinellau cyffuriau
Term a ddefnyddir gan yr heddlu yw llinellau cyffuriau. Mae'n cyfeirio at fath o ddosbarthu cyffuriau pan fydd cyffuriau'n cael eu gwerthu gan ddefnyddio rhif ffôn symudol sy’n frand.
Mae llinellau cyffuriau yn fath o gamfanteisio troseddol ar blant pan fydd pobl ifanc yn cael eu defnyddio i gludo a/neu werthu cyffuriau. Efallai y bydd y canlynol yn digwydd:
- maen nhw’n cael eu masnachu o’r naill ardal ddaearyddol i'r llall, e.e. o Loegr i Gymru
- maen nhw’n cael eu masnachu o fewn ardal ddaearyddol, e.e. o Gasnewydd i'r Barri.
Dywedodd y sawl a oedd wedi cymryd rhan yn ein hymchwil bod y term ‘llinellau cyffuriau’ yn ddryslyd hwyrach gan ei fod wedi arwain at gamdybiaethau cyffredin, er enghraifft, bod hyn ond yn effeithio ar fechgyn o leiafrifoedd ethnig neu ar bobl ifanc mewn dinasoedd. Argymhelliad ein hymchwil oedd y dylid defnyddio'r term 'camfanteisio’n droseddol ar blant'. Fodd bynnag, mae ein canfyddiadau diweddaraf yn awgrymu fod y term hwn hefyd yn rhy gyfyngedig hwyrach gan fod pobl ifanc yn aml yn destun mathau gwahanol o gamfanteisio.