Termau cyffredin
Bydd y termau sy’n gysylltiedig â chamfanteisio'n droseddol ar blant yn amrywio yn ôl rhanbarth.
Mae llawer o'r termau hyn wedi dod yn gyffredin iawn. Ni fydd pob person ifanc sy'n eu defnyddio'n destun camfanteisio’n droseddol.
Term | Esboniad |
---|---|
Llinell wedi'i brandio (Branded line) | Llinell ffôn symudol sy'n cael ei defnyddio i gymryd archebion gan gwsmeriaid. Mae'n cael ei rheoli gan bobl ifanc hŷn sy’n uwch yn y gadwyn delio cyffuriau. Mae modd rhoi enw person ifanc neu le i linellau brand, e.e., 'llinell y Barri'. |
Crwyn glân (Clear skins) | Pobl ifanc dydy’r heddlu na’r gwasanaethau plant yn eu hadnabod. Mae'r bobl ifanc hyn yn cael eu targedu gan gamfanteiswyr gan eu bod yn llai tebygol y bydd rhywun yn amau eu bod yn destun camfanteisio troseddol. |
Cogio (Cuckooing) | Y broses lle y caiff pobl ifanc eu defnyddio i gymryd tai drosodd. Ceir y tai hyn o oedolion agored i niwed, gan gynnwys pobl sy’n gaeth i gyffuriau dosbarth A. |
Caethiwed dyled (Debt bondage) | Mae pobl yn eu rhwydwaith eu hunain yn lladrata oddi ar bobl ifanc er mwyn iddyn nhw fynd i ddyled a bod yn agored i gamfanteisio arnyn nhw ac mae’n rhaid iddyn nhw ad-dalu’r ddyled. Bydd camfanteiswyr yn gosod cyfraddau uchel er mwyn maglu pobl ifanc. |
Rhai hŷn (Elders) | Pobl ifanc sydd un cam yn uwch na rhedwyr stryd. Mae rhai hŷn yn creu gwerthiannau ac yn adeiladu sylfaen cwsmeriaid weithredol. Maen nhw’n camfanteisio’n droseddol ar bobl ifanc eraill. |
Bwyd | Mae camfanteiswyr yn cyfeirio at eu cyffuriau fel ‘bwyd’ i leihau goblygiadau eu gweithgareddau. Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn credu eu bod yn 'bwydo' pobl agored i niwed sy'n gaeth i gyffuriau ac yn eu helpu. |
Mynd i gefn gwlad (Going country) | Pan fydd rhywun yn meithrin perthynas amhriodol gyda phobl ifanc ac yn eu recriwtio mewn dinasoedd ac ardaloedd trefol mwy, ac mae’n bosibl y byddan nhw’n cael eu masnachu i mewn i ardaloedd gwledig neu arfordirol. |
Allan o’r dref (OT, out trapping) | Bod i ffwrdd (wedi'i fasnachu) yn delio cyffuriau mewn ardaloedd trefol neu wledig. |
Plygio (Plugging) | Cuddio cyffuriau yn fewnol. Mae’n bosibl y bydd pobl ifanc yn cael eu dal i lawr gan ddefnyddio grym wrth i’r cyffuriau gael eu cuddio yn eu corff neu wrth iddyn nhw gael eu tynnu allan. |
Dyn ffordd (Road man) | Gwerthwr cyffuriau |
Rhedwyr | Pobl ifanc ar waelod hierarchaeth gwerthu cyffuriau Caiff pobl ifanc eu camfanteisio’n droseddol i gludo a gwerthu cyffuriau. |
Shank | Cyllell |
Strapio neu ‘on tick’ | Pan fydd pobl ifanc yn cael cyffuriau am ddim |
Trethu (Taxing) | Lle y caiff trais ei ddefnyddio fel dull rheoli. Gall pobl ifanc sydd wedi 'gwneud cam' gael eu marcio neu eu hanafu fel gwers i eraill. |
Tŷ maglu neu ‘bando’ (Trap house neu bando) | Dyma adeilad sy’n cael ei ddefnyddio fel man i werthu cyffuriau. Yn aml defnyddwyr cyffuriau sydd yn yr adeiladau hyn. |
Maglu (Trapping) | Mae hyn yn cyfeirio at werthu cyffuriau ar y stryd. |