Ewch i’r prif gynnwys

Arwyddion rhybuddio o gamfanteisio troseddol ar blant.

Mae amrywiaeth eang o ffyrdd o gamfanteisio ar bobl ifanc.

Mae'r rheini sy'n camfanteisio yn dysgu pobl ifanc sut i guddio’r hyn maen nhw’n cael eu perswadio neu eu gorfodi i’w wneud. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i rieni adnabod yr arwyddion.

Gall fod yn anodd adnabod arwyddion camfanteisio’n droseddol ar blentyn oherwydd y newidiadau arferol yn ymddygiad sy'n gysylltiedig â'r arddegau. Fodd bynnag, mae'r arwyddion hyn yn dangos bod rhywbeth o'i le ym myd eich plentyn.

Efallai y bydd y rheini sy’n camfantesio yn dweud wrth bobl ifanc y byddant yn mynd i drafferth os ydyn nhw'n 'cario clecs', y byddan nhw'n cael eu harestio, neu y bydd eu rhieni'n mynd i drafferth. Mae'r rhain i gyd yn dechnegau sydd wedi'u cynllunio i'ch atal chi a'ch plentyn rhag gofyn am help a chymorth.

Beth bynnag mae'ch plentyn yn ei brofi, cofiwch nid nhw sydd ar fai: y rhai sy'n camfanteisio arnyn nhw sydd ar fai. Ceisiwch gysuro eich plentyn a gwrandewch arno heb farnu.

Newidiadau i ymddygiad a lles emosiynol eich plentyn

Efallai y bydd eich plentyn yn nerfus, wedi mynd i’w gragen, yn ofnus neu'n bryderus, ac yn profi hunllefau neu anhawster cysgu. Efallai y bydd eich plentyn yn profi newidiadau treisgar yn eu hwyliau. Efallai y byddant yn mynd i’w gragen, mynd yn ymosodol, neu deimlo’n bell oddi wrthych chi ac aelodau eraill o'r teulu.

Efallai y bydd eich plentyn yn nerfus bob tro y bydd rhywun yn curo'r drws neu pan fyddwch chi’n mynd allan. Efallai y bydd eich plentyn yn teimlo'n bryderus am rai pobl neu leoedd.

Efallai y bydd ysgol eich plentyn yn cysylltu â chi gyda phryderon am eu hymddygiad, a gallant gael eu gwahardd dros dro neu'n barhaol. Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol, gallai fod yn agored i niwed oherwydd eu parodrwydd i ymddiried mewn eraill, neu oherwydd ei anawsterau wrth wneud ffrindiau.

Celwydd, twyll a grym yn berthnasau eich plentyn

Efallai y byddwch yn sylwi eu bod yn gorfod mynd allan pryd bynnag y byddan nhw'n derbyn galwad ffôn neu neges.

Efallai y bydd eich plentyn yn dweud celwydd neu'n gyfrinachol am alwadau ffôn, ffrindiau neu o ble mae dillad ac eiddo newydd wedi dod. Gallant fod yn amwys neu'n amharod i ddweud wrthych beth ddigwyddodd i achosi clwyfau, cleisiau, neu anafiadau corfforol eraill.

Gall ymddangos fod eich plentyn dan reolaeth oedolyn neu berson ifanc hŷn.

Efallai fod y rheini sy’n camfanteisio wedi gwneud i’ch plentyn credu nad ydych chi'n eu caru nac yn poeni amdanyn nhw, ac mai eu ffrindiau newydd yw eu 'teulu'. Efallai y bydd eich plentyn yn diflannu neu'n rhedeg i ffwrdd am oriau, dyddiau neu wythnosau.

Hwyrach y bydd camfanteisio troseddol ar blant yn codi ofn ar bobl ifanc, eu rhieni a’u gofalwyr.

Mae'n bwysig cofio mai'r unig bobl sydd ar fai yw'r ecsbloetwyr.

Tawelwch eu meddwl

Efallai y bydd eich plentyn yn ofnus neu'n teimlo cywilydd am yr hyn sydd wedi digwydd. Efallai bod yr ecsbloetwyr wedi dweud wrtho nad ydych chi’n ei garu, neu y bydd yn cael ei arestio neu ei ddwyn i ofal awdurdod lleol. Dylech chi dawelu ei feddwl gan ddweud wrtho eich bod yn ei garu a’ch bod eisiau ei helpu a'i gefnogi.

Gwrandewch heb farnu

Efallai y bydd eich plentyn yn dweud pethau wrthych chi sy'n peri pryder neu sy'n codi ofn arnoch chi. Mae’n bwysig eich bod yn gwrando, gan greu lle diogel lle gallwch chi siarad am bethau’n rhwydd.

Efallai y bydd yn anodd os yw eich plentyn yn ymddwyn yn ymosodol, yn mynd ar goll neu’n eich beio. Mae'r ecsbloetwyr eisiau ei droi yn eich erbyn: maen nhw eisiau i'ch plentyn gael ei ynysu. Efallai y bydd eich plentyn hefyd yn ceisio eich amddiffyn rhag yr hyn y mae wedi'i brofi.

Gofyn am help

Siaradwch â pherthynas, ffrind neu arweinydd ffydd rydych chi’n ymddiried ynddo. Cysylltwch â sefydliad sydd â gwybodaeth arbenigol am gamfanteisio troseddol ar blant.

Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac y bydd pethau'n gwella. Bydd rhieni eraill yn eich ardal chi sydd mewn sefyllfa debyg.

Cofnodi digwyddiadau

Bydd dod o hyd i’r ffaith bod camfanteisio troseddol ar blant yn digwydd yn beth heriol weithiau. Cadwch gofnod o fathau o ymddygiad a digwyddiadau sy’n peri pryder ichi: enwau ffrindiau neu bobl y mae eich plentyn yn siarad amdanyn nhw, tocynnau bws neu drên ar gyfer teithiau anarferol neu annisgwyl, rhifau cofrestru ceir. Mae hyn yn helpu i greu darlun o'r hyn sy'n digwydd ac yn dystiolaeth y gall yr heddlu ymchwilio iddi.

Gellir rhannu'r cofnod â gweithwyr proffesiynol i ddangos pa mor hir rydych chi wedi bod yn poeni a'r arwyddion o rybudd rydych chi wedi sylwi arnyn nhw.

Rhowch wybod eu bod ar goll

Os bydd eich plentyn yn mynd ar goll, rhowch wybod i'r heddlu.

Os ydych chi’n pryderu ei bod yn bosibl y bydd yn mynd ar goll, llenwch ffurflen Protocol Philomena am eich plentyn, ei ffrindiau, a'i arferion arferol. Cadwch gopi i'w roi i'r heddlu os bydd eich plentyn yn mynd ar goll.

Bydd ecsbloetwyr yn ceisio canfod ffyrdd o ddod yn gyfaill i'ch plentyn, ac yn ffugio’n fod yn gefn iddo/iddi.

Cyn i’r ecsbloetwyr ddechrau camfanteisio’n droseddol ar eich plentyn, byddan nhw eisoes wedi sefydlu perthynas ag ef/hi, sy'n golygu bod eich plentyn yn credu y gall ef/hi ymddiried ynddyn nhw.

Yn aml, bydd ecsbloetwyr yn targedu pobl ifanc sydd naill ai ar eu pen eu hunain, yn ynysig, neu'n chwilio am rywun i ofalu amdanynt. Gallai hyn gynnwys pobl ifanc sy'n dawel ac yn ei chael hi'n anodd yn cymdeithasu â phobl eraill, neu’r rheiny sy'n wynebu sefyllfa newydd, fel dechrau ysgol neu goleg newydd. Efallai y mae’r person ifanc hefyd yn wynebu heriau teuluol, fel ei rieni yn gwahanu, neu’n ceisio cael hyd i’w draed neu’n eisiau cael ei amddiffyn.

Tactegau cyffredin a ddefnyddir gan ecsbloetwyr

Mae ecsbloetwyr fel arfer yn gwneud i bobl ifanc deimlo fel eu bod nhw’n bwysig ac yn cael eu gofalu ganddynt. Gallan nhw wneud hyn pan fo’i rieni neu’i ofalwyr yn y gwaith neu’n brysur, ac fe wneir hyn drwy

  • fynd â nhw am bryd o fwyd
  • mynd â nhw am ddiwrnod allan
  • rhoi dillad neu esgidiau iddyn nhw

Efallai yr ânt mor bell â honni eu bod nhw’n 'deulu newydd' i’r bobl ifanc yma.

Gall ecsbloetwyr gynnig sefyllfa newid i bobl ifanc fedru gwneud 'arian yn hawdd' gan arddangos eu cyfoeth drwy geir moethus, dillad cynllunydd, a ffonau symudol. Gallan nhw rhoi arian i bobl ifanc, ac yn gymorth iddynt yn ariannol, drwy brynu pethau iddyn nhw. Tactegau yw hyn er mwyn perswadio’r person ifanc y gall ef/hi ymddiried yn yr ecsbloetiwr.

Ond, mae’r ecsbloetwyr hyn yn peri bygythiad niweidiol i fywyd pobl ifanc. Gan amlaf, mae hyn yn cynnwys bygwth anafu'r person ifanc neu ei deulu os nad yw ef/hi’n ufuddhau i’w gofynion, os yw ef/hi’n datgelu gwirionedd y sefyllfa i eraill, neu os yw ef/hi’n ceisio dianc o’r sefyllfa. O bosibl gallan nhw hyd yn oed ffilmio'r person ifanc yn cael ei ymosod er mwyn ei flacmelio.