Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Cymru

Mae Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn amlinellu sut y dylai'r heddlu ddiogelu pobl ifanc.

O dan Gynllun Cyfiawnder Ieuenctid Cymru (Llywodraeth Cymru, 2019), mae'n rhaid i swyddogion heddlu drin pobl ifanc fel plant yn gyntaf, ac yn droseddwyr yn ail.

Mae gan y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Cymru chwe phrif egwyddor:

  1. atal
  2. Dargyfeirio cyn mynd i’r llys
  3. Y gymuned
  4. Y Ddalfa
  5. Ailsefydlu a phontio
  6. Goruchwylio’r system.

Atal

Er mwyn atal pobl ifanc rhag troseddu, dylai’r gwasanaethau weithio gyda'i gilydd i ddarparu ymyriadau sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc sy'n derbyn gofal, wedi'u gwahardd o'r ysgol neu'n ddigartref.

Dargyfeirio cyn mynd i’r llys

Dylid defnyddio dulliau dargyfeirio presennol i ddargyfeirio troseddwyr tro cyntaf oddi wrth y system cyfiawnder ieuenctid. Mae hyn yn gofyn am weithio mewn partneriaeth yn effeithiol, fel bod yr heddlu'n hysbysu'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid pan fydd pobl ifanc yn derbyn penderfyniadau cymunedol.

Cymunedol

Mae pob gwasanaeth angen dull sy'n deall trawma. Dylai hyn gynnwys rheolaeth achosion uwch a ddarperir gan ymarferwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant mewn gweithio gyda thrawma.

Y Ddalfa

Yn yr un modd, dylai pobl ifanc gael eu lleoli mewn llety diogel yng Nghymru, yn agos at eu cymunedau. Dylai'r ddarpariaeth hon fod yn seiliedig ar arferion gorau sy'n ystyriol o drawma, a dylai gynnwys darparu addysg, hyfforddiant a chymorth iechyd ac iechyd meddwl o ansawdd uchel.

Ailsefydlu a phontio

Dylai ailsefydlu adeiladol alluogi gwaith cydgysylltiedig, cydlynol a chydweithredol â phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, yn ogystal â phontio rhwng gwasanaethau, fel gwasanaethau iechyd a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Goruchwylio’r system.

Dylai fod goruchwyliaeth glir a gweithio mewn partneriaeth ar draws gwahanol rannau o'r system. Mae hyn yn cynnwys cryfhau’r bartneriaeth rhwng y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, y Gwasanaeth Dalfeydd Ieuenctid, a’r Gwasanaeth Prawf a Charchardai Cymru.