Y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol
Pan amheuir bod person ifanc yn dioddef o gamfanteisio'n droseddol ar blant, gellir atgyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM).
Yr NRM yw'r broses a ddefnyddir i benderfynu a yw person ifanc wedi dioddef caethwasiaeth a masnachu modern. Gall yr heddlu, awdurdodau lleol, a rhai sefydliadau gwirfoddol wneud atgyfeiriad i’r NRM. Mae hyn yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hamddiffyn a'u cefnogi'n briodol.
Deg cam o'r NRM
1. Meini prawf
Gellir defnyddio amddiffyniad Adran 45 ar gyfer gweithgareddau troseddol, gan gynnwys:
- Masnachu pobl
- caethwasiaeth fodern
- dwyn
- tyfu canabis
- Camfanteisio’n rhywiol
- mewnfudo
2. Sut i wneud atgyfeiriad
Ymatebwyr Cyntaf sy’n gwneud atgyfeiriadau Mae hyn yn cynnwys yr heddlu, Gwasanaethau Plant, Barnardo's, a'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC).
3. Pa Ymatebwr cyntaf?
Gall pobl ifanc fod yn amharod neu'n anfodlon i siarad â'r heddlu. Gallent boeni am gael eu harestio, neu eu cymryd i ofal yr awdurdod lleol. Gall ymatebwr cyntaf arall fod yn bwynt cyswllt cyntaf mwy priodol.
4. Dangosyddion cyffredinol:
Mae'r ffurflen gais a’i defnyddir ar gyfer y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol yn cynnwys 20 o ddangosyddion cyffredinol. Dylai atgyfeiriad yr ymatebwyr cyntaf gynnwys arwyddion rhybuddio, anafiadau anesboniadwy, perthynas â pherthnasau â chyfoedion hŷn neu oedolion sy’n achosi pryder, neu ddigwyddiadau penodol, fel mynd ar goll.
5. Llenwi’r ffurflen gais
Gwneir penderfyniadau ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd. Mae’n ofynnol i bob asiantaeth sy’n gysylltiedig â’r atgyfeiriad i rannu’r holl wybodaeth y maent yn ymwybodol ohono ynglŷn ar person ifanc.
6. Awdurdod Cymwys Sengl
Mae Caerdydd a Chasnewydd yn rhan o astudiaeth beilot sy'n ystyried a ddylid gwneud penderfyniadau NRM ar lefel leol, yn hytrach nag yn ganolog yn Llundain. Mae ganddynt y pŵer i dderbyn atgyfeiriadau NRM a phenderfynu ar eu canlyniadau.
7. Derbyn yr atgyfeiriad
Bydd yr ymatebwr cyntaf a wnaeth yr atgyfeiriad yn derbyn rhif cyfeirnod y gellir ei ddefnyddio i gynnwys gwybodaeth ychwanegol wrth iddo ddod i'r amlwg.
8. Hysbysu'r heddlu a'r Gwasanaethau Plant
Pan fydd atgyfeiriad NRM yn cael ei wneud, dylid hysbysu'r heddlu, gan y gallai'r person ifanc fod wedi dioddef trosedd. Dylid cyfeirio hefyd at Wasanaethau Plant yr awdurdod lleol.
9. Terfynau Amser
Nod y panel NRM yw gwneud penderfyniad o fewn 5 diwrnod gwaith.
10. Canlyniadau
Penderfyniad negyddol
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad negyddol mewn dwy ffordd:
- Ailystyried: Gall ymatebwr cyntaf neu ymarferydd ofyn i'r awdurdod cymwys edrych ar y dystiolaeth eto neu gynnwys tystiolaeth newydd wrth wneud penderfyniad.
- Adolygiad barnwrol: Caiff y person ifanc ofyn i'r llys adolygu'r penderfyniad.
Penderfyniad cadarnhaol
Ymhlith y penderfyniadau cadarnhaol y mae:
- Seiliau Rhesymol, pan fydd amheuaeth o gaethwasiaeth fodern ond ni ellir ei phrofi
- Seiliau Terfynol, pan fydd yn fwy na thebygol bod y person ifanc wedi dioddef caethwasiaeth fodern.
Dylai penderfyniad NRM cadarnhaol arwain at ganlyniadau gwell i'r person ifanc, gan y dylai’r gwasanaethau ei amddiffyn yn hytrach na'i droseddoli.
Hyd yn oed pan fydd eich plentyn yn derbyn penderfyniad cadarnhaol, mae risg o hyd os yw'r camfanteiswyr yn credu bod eich plentyn wedi osgoi erlyniad drwy roi gwybod i’r heddlu. Dylech chi weithio gyda’r gwasanaethau i sicrhau eich bod chi a'ch plentyn yn cael eich amddiffyn rhag y goblygiadau negyddol a’r camfanteisio parhaus.