Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015
Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn mynd i’r afael â throseddau caethwasiaeth a masnachu pobl.
Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn deddfu ar droseddau megis masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern. Darllenwch y ddeddfwriaeth lawn ar wefan Llywodraeth y DU
Deall caethwasiaeth fodern
Yn ôl y Ddeddf, mae gan gaethwasiaeth fodern dair prif elfen: Gweithredu, modd a diben.
Gweithredu
Caethwasiaeth fodern yw gorfodi, defnyddio grym neu gamfanteisio ar blant a phobl ifanc, a chymryd, trosglwyddo, llochesu, neu eu derbyn.
Modd
Cyflawnir hyn gan ddefnyddio grym, gorfodaeth, twyll, anghydbwysedd pŵer, neu fygythiadau. Fodd bynnag, nid oes rhaid i'r elfennau hyn fod yn bresennol ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn ôl y Ddeddf, ni all pobl ifanc roi cydsyniad gwybodaeth i gymryd rhan mewn troseddoldeb dan orfodaeth neu i gael eu camdrin neu i gael eu masnachu.
Diben
Mae'r camau a'r dulliau yn cael eu cyflawni at ddibenion camfanteisio’n droseddol ar blant, camfanteisio’n ariannol a rhywiol, llafur dan orfodaeth, caethwasiaeth, caethwasiaeth ddomestig, lladrata o siopau a thwyll.
O dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, ystyrir bod pobl yn cael eu masnachu at bwrpas camfanteisio hyd yn oed os nad yw’r camfanteisio hwnnw wedi digwydd eto. Felly, ystyrir bod plant a phobl ifanc wedi cael eu masnachu hyd yn oed pan fydd ymarferwyr wedi ymyrryd cyn i’r camfanteisio ddigwydd.
Gall caethwasiaeth fodern ddigwydd trwy berthynas agos megis aelodau’r teulu neu lle mae plant a phobl ifanc yn credu eu bod mewn perthynas â'r person sy'n camfanteisio arnynt.
Efallai na fydd plant a phobl ifanc yn cael eu symud yn gorfforol (eu 'masnachu') ar gyfer camfanteisio troseddol, ond gallant ddal i ddioddef caethwasiaeth fodern os ydynt wedi cael eu gorfodi i mewn i gaethwasiaeth, gwasanaeth neu lafur gorfodol.
Tra bod y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern yn berthnasol i Gymru, mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn rhoi canllawiau manwl drwy eu canllawiau diogelu a'r Llwybr Diogelu Cymru mewn perthynas â Chaethwasiaeth Fodern
Rhagor o wybodaeth am ddiogelu plant yng Nghymru a allai gael eu masnachu.
Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol
O dan adran 48 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, mae Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol (ICTGs) yn ffynhonnell annibynnol o gymorth i bobl ifanc sydd wedi cael eu masnachu.
Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Warcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol. Mae'r gwasanaeth hwn yn ffynhonnell annibynnol o gyngor, a gall Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol godi llais ar ran plant.
Ar ôl i’r ymatebwr cyntaf ddilyn y llwybrau diogelu a’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM) arferol ar gyfer person ifanc, dylent ei atgyfeirio at y gwasanaeth Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol drwy ffurflen ar-lein.
Bydd y gwasanaeth Gwarcheidwad Masnachu Plant Annibynnol yn asesu anghenion diogelu brys y person ifanc ac yn rhoi cyngor i'r gweithiwr proffesiynol rheng flaen neu'r 'ymatebwr cyntaf' sy'n gwneud yr atgyfeiriad.
Rôl y gwasanaeth Gwarcheidwad Masnachu Plant Annibynnol yw gweithio gydag asiantaethau cyhoeddus a rhai nad ydynt yn gyhoeddus ac â rhieni drwy ymgynghori a thrwy roi cyngor i sicrhau bod buddiannau pennaf y person ifanc yn cael eu cydnabod. Maent hefyd yn rhoi cyngor arbenigol i weithwyr proffesiynol am y ffordd orau i gefnogi a diogelu plant sy’n ddioddefwyr masnachu.
Pan fo person ifanc wedi cyflawni troseddau, naill ai yn ystod neu o ganlyniad i gael ei fasnachu, bydd y Gwarcheidwad Masnachu Plant Annibynnol yn sicrhau bod pob gweithiwr proffesiynol yn ymwybodol o egwyddor ddi-gosb ac amddiffyniad Adran 45 yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015.
Mae'r Gwasanaeth Gwarcheidwad Masnachu Plant Annibynnol ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos drwy ffonio 0800 043 4303 neu drwy ebostio trafficking.referrals@bypmk.cjsm.net