Ewch i’r prif gynnwys

Siarad â'r heddlu

Dylech chi gysylltu â’r heddlu pan fyddwch chi’n amau bod eich plentyn yn cael ei gamfanteisio'n droseddol.

Bydd bod mewn cysylltiad â’r heddlu neu gael eich arestio yn beth brawychus i'ch plentyn: efallai y bydd yn ofni’r heddlu yn ogystal â'r bobl sy'n camfanteisio arno. Efallai y bydd hefyd yn ofnus ynghylch sut y byddwch chi'n ymateb.

Hwyrach y bydd yn brofiad brawychus i chithau. Fodd bynnag, gwaith yr heddlu yw atal camfanteisio'n droseddol ar blant rhag digwydd, mynd ar drywydd y bobl sy'n camfanteisio'n droseddol ar eich plentyn, ac amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed pellach. I wneud hyn, mae angen gwybodaeth arnyn nhw ynglŷn â phwy sy'n camfanteisio ar eich plentyn, ble mae hyn yn digwydd, yn ogystal â’r hyn mae hyn yn ei olygu.

Os caiff eich plentyn ei arestio

Dylai'r heddlu eich ffonio Os yw eich plentyn o dan 18 oed, dylai roi gwybod ichi cyn gynted â phosibl. Ni all yr heddlu gyfweld â’ch plentyn oni bai bod rhiant neu oedolyn priodol arall yn bresennol.

Os dymunwch, gallwch chi fod yn oedolyn priodol ar gyfer eich plentyn. Dylid caniatáu i blentyn siarad â’i oedolyn priodol yn breifat.

Dylai fod gan eich plentyn gynrychiolaeth gyfreithiol hefyd. Os nad oes gennych chi gyfreithiwr gofynnwch am gael galw'r 'cyfreithiwr ar ddyletswydd'. Mae’n bosibl y bydd yn cymryd awr neu ragor iddo gyrraedd. Pan fydd yn cyrraedd, dywedwch wrth y cyfreithiwr eich bod yn pryderu bod eich plentyn yn cael ei gamfanteisio'n droseddol.

Os ydych chi wedi bod yn cadw cofnod o’r achosion a’r digwyddiadau, dywedwch wrth eich cyfreithiwr am y rhain. Gall sicrhau y bydd yr heddlu'n ystyried eich pryderon.

Y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol

Pan amheuir bod person ifanc yn dioddef o gamfanteisio'n droseddol ar blant, gellir atgyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM).

Yr NRM yw'r broses a ddefnyddir i benderfynu a yw person ifanc wedi dioddef caethwasiaeth a masnachu modern. Gall yr heddlu, awdurdodau lleol, a rhai sefydliadau gwirfoddol wneud atgyfeiriad i’r NRM.

Canlyniadau posibl

Penderfyniad negyddol

Ymhlith y penderfyniadau negyddol y mae:

  • Seiliau Rhesymol, pan fydd amheuaeth o gaethwasiaeth fodern ond ni ellir ei phrofi
  • Seiliau Terfynol, pan fydd yn fwy na thebygol bod y person ifanc wedi dioddef caethwasiaeth fodern.

Cewch apelio yn erbyn penderfyniad negyddol ar Seiliau Rhesymol neu Seiliau Cadarnhaol mewn dwy ffordd:

  1. Ailystyried. Caiff ymatebwr cyntaf neu ymarferydd ofyn i'r awdurdod cymwys ailystyried y dystiolaeth neu gynnwys tystiolaeth newydd wrth wneud ei benderfyniad.
  2. Adolygiad barnwrol. Caiff y person ifanc ofyn i'r llys adolygu'r penderfyniad.

Penderfyniad cadarnhaol

Dylai penderfyniad NRM cadarnhaol arwain at ganlyniadau gwell i'r person ifanc, gan y dylai’r gwasanaethau ei amddiffyn yn hytrach na'i droseddoli.

Hyd yn oed pan fydd eich plentyn yn derbyn penderfyniad cadarnhaol, mae risg o hyd os yw'r camfanteiswyr yn credu bod eich plentyn wedi osgoi erlyniad drwy roi gwybod i’r heddlu. Dylech chi weithio gyda’r gwasanaethau i sicrhau eich bod chi a'ch plentyn yn cael eich amddiffyn rhag y goblygiadau negyddol a’r camfanteisio parhaus.