Mae fy mhlentyn wedi cael ei wahardd o'r ysgol
Os yw eich plentyn yn mynd i drafferth yn yr ysgol ac mae strategaethau cymorth addysgol wedi methu, efallai y caiff ei wahardd.
Gallai newidiadau sydyn yn ymddygiad eich plentyn sy'n effeithio arno yn yr ysgol fod yn arwydd ei fod yn cael ei ecsbloetio'n droseddol.
Mae prosesau i'w dilyn pan benderfynwyd tynnu eich plentyn o'r ysgol. Mae'n bwysig deall beth i'w ddisgwyl yn ystod y cyfnod hwn a'r hawliau sydd ar gael i chi, gan gynnwys yr hawl i apelio.
Penderfyniad i wahardd
Gall ysgol benderfynu gwahardd disgybl os yw amryw strategaethau a ddefnyddir i gefnogi eich plentyn wedi methu. Gall eich plentyn fod mewn perygl o gael ei wahardd os oes achos difrifol o dorri polisi ymddygiad ysgol wedi digwydd, neu os oes risg o niwed difrifol i ddysgu neu les eich plentyn neu ddysgwyr eraill.
Gwaharddiadau anghyfreithlon
Ni ddylai eich plentyn gael ei wahardd o'r ysgol oherwydd mân ddigwyddiad, megis perfformiad academaidd gwael neu broblemau gyda hwyrni neu driwantiaeth. Gall seiliau anghyfreithlon eraill dros waharddiad gynnwys beichiogrwydd, torri rheolau gwisg ysgol yn anghyson, ymddygiad ei rieni, neu symud eich plentyn o'r ysgol i'w amddiffyn rhag bwlio.
Y weithdrefn ar gyfer gwahardd
Cyn i waharddiad ddigwydd, dylai pennaeth sicrhau’r canlynol:
- bod ymchwiliad wedi'i gynnal i'r digwyddiad
- bod yr holl dystiolaeth sydd ar gael wedi cael ei hystyried
- yr ymgynghorwyd â pholisïau ysgolion perthnasol
- bod plentyn wedi cael cyfleoedd rhesymol i rannu ei fersiwn o ddigwyddiadau
- na ddigwyddodd y digwyddiad oherwydd bwlio neu aflonyddu
- bod cofnod ysgrifenedig o'r digwyddiad a'r camau a gymerwyd wedi'u cwblhau
- bod didwylledd a thegwch yn cael ei sicrhau trwy hysbysu’r person perthnasol ym mywyd plentyn dros y ffôn neu drwy ddull arall, ac yna mewn llythyr o fewn un diwrnod
Llythyrau gwahardd
Pan fydd y penderfyniad wedi'i wneud i wahardd eich plentyn, rhaid i'r ysgol ddarparu llythyr yn nodi a yw'r gwaharddiad yn barhaol neu'n dymor penodol, pryd y bydd y gwaharddiad yn digwydd, ac, ar gyfer gwaharddiadau tymor penodol, y dyddiad dychwelyd. Rhaid iddo hefyd gynnwys cynllun ar gyfer sut y bydd addysg eich plentyn yn parhau yn ystod y cyfnod hwn a gwybodaeth bellach am y cyfnod gwahardd, i gynnwys:
- rhesymau dros y gwaharddiad
- ar gyfer ysgolion a gynhelir, hawl y rhiant neu'r gwarcheidwad a'r plentyn i gwyno'n ffurfiol am y gwaharddiad i bwyllgor disgyblu
- gwybodaeth am bwy i gysylltu â nhw er mwyn gwneud cwyn ffurfiol
- yr hawl i weld a chael copi o gofnod addysgol y plentyn ar gais ysgrifenedig i'r ysgol
- enw a rhif ffôn rhywun i gysylltu ag ef i gael mwy o gyngor
Beth fydd yn digwydd nesaf
Yn dilyn gwaharddiad, bydd awdurdod lleol yn asesu anghenion eich plentyn. Bydd hyn yn sicrhau bod addysg addas ar gael iddo, yn ogystal â gweithdrefn o ailintegreiddio i'r ysgol pan fydd cyfnod y gwaharddiad yn dod i ben.
Ailintegreiddio yn dilyn gwaharddiad tymor penodol
Dylai'r awdurdod lleol lunio cynllun ailintegreiddio ar gyfer eich plentyn sydd wedi'i wahardd, a gaiff ei adolygu'n rheolaidd. Dylai'r cynllun gynnwys camau i'w cymryd ar gyfer ailintegreiddio a’r canlynol:
- amserlen ar gyfer adolygu’r cynllun
- gweithgareddau sy'n cynyddu'n raddol faint o gyswllt y mae plentyn yn ei gael gyda'r ysgol y mae’n dychwelyd iddi
- y dyddiad ar gyfer dychwelyd yn wirioneddol
Dod o hyd i ddarpariaeth amgen
Gall ysgol gytuno ar raglen addysg amgen gyda chi a'ch plentyn. Gall hyn gynnwys Rhaglenni Cymorth Bugeiliol (PSPs), sydd weithiau ar gael yn fewnol mewn ysgol.
Gellir cytuno ar 'symudiad wedi’i reoli' gyda'r ysgol hefyd. Mae hyn yn golygu dod o hyd i ysgol wahanol y gall eich plentyn ei mynychu. Mae'n rhaid i'r cynllun fod er lles eich plentyn ac ni ddylech deimlo dan bwysau i gytuno i symud er mwyn osgoi gwaharddiad.
Nid yw symudiad wedi’i reoli’n darparu'r un amddiffyniad cyfreithiol â gwaharddiad parhaol. Er enghraifft, nid oes gan blant hawl yn awtomatig i addysg dros dro, yr hawl i apelio, na chymorth gyda threfniadau ymarferol megis trafnidiaeth.
Eich hawl i apelio
Mae gennych hawl i wneud cwyn ffurfiol i bwyllgor disgyblu ynghylch gwahardd eich plentyn o'i ysgol. Mae gennych hefyd hawl i apelio yn annibynnol os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad pwyllgor disgyblu.
Pwyllgor disgyblu
Mae pwyllgor disgyblu yn cynnwys tri i bump o lywodraethwyr ysgol a chlerc sy'n rhoi cyngor ar y broses. Rhaid sefydlu cyfarfod rhwng y chweched a'r pymthegfed diwrnod ar ôl rhoi gwybod am waharddiad. Mae'n rhaid i'r pwyllgor wahodd y canlynol:
- chi
- eich plentyn
- y pennaeth
- swyddog o’r awdurdod lleol
Dylid caniatáu i gynrychiolydd cyfreithiol fod yn bresennol hefyd os gofynnir amdano, a dylai eiriolwr fod yn bresennol i gynrychioli'ch plentyn os nad ydych chi neu warcheidwad ar gael.
Gall y pwyllgor naill ai gynnal gwaharddiad neu ofyn am adfer eich plentyn, naill ai ar unwaith neu erbyn dyddiad penodol.
Dylid rhoi gwybod am unrhyw benderfyniad a wneir gan y pwyllgor disgyblu i bob parti o fewn un diwrnod ysgol ar ôl y cyfarfod, gan amlinellu'r rhesymau dros y penderfyniad. Rhaid i’r llythyr nodi:
- y rheswm dros eu penderfyniad
- y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno apêl
- esboniad am y sail dros apelio
Bydd llythyr gan yr awdurdod lleol hefyd yn cael ei anfon allan o fewn tri diwrnod gwaith ar ôl y cyfarfod.
Apêl annibynnol
Mae gennych hawl i banel apêl annibynnol hyd yn oed os nad oeddech yn bresennol yn y panel disgyblu. Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol greu'r panel a chynnwys y canlynol:
- clerc
- person lleyg sy'n gweithredu’n Gadeirydd
- ymarferwyr addysgol
- llywodraethwyr ysgol
Dylai pob parti gael cyfle i gynrychioli eu hachos, gan gynnwys eich plentyn, mewn amgylchedd anffurfiol.
Rhaid i'r panel hysbysu pob parti o'u penderfyniad erbyn yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y cyfarfod. Gall y panel naill ai gynnal gwaharddiad, adfer eich plentyn i'r ysgol, neu amlinellu nad yw'n ymarferol awgrymu derbyn y plentyn yn ôl oherwydd amgylchiadau eithriadol.