Mae fy mhlentyn wedi mynd ar goll
Gall mynd ar goll fod yr arwydd mwyaf bod plentyn yn cael ei gamfanteisio’n droseddol.
Efallai y bydd pobl ifanc yn teimlo bod yn rhaid iddynt ddiflannu i oroesi ac osgoi niwed i'w hunain a'u teuluoedd. Gall hyn ddechrau'n raddol gyda diflaniadau byr, neu gall eich plentyn ddiflannu am ddyddiau neu wythnosau. Dylech bob amser roi gwybod i'r heddlu bod eich plentyn ar goll.
Mae Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan yn nodi beth ddylai ddigwydd pan fydd plentyn neu berson ifanc yn mynd ar goll. Darllenwch Diogelu pobl ifanc sy'n mynd ar goll o'u cartref neu ofal.
Beth i'w wneud pan fydd eich plentyn yn mynd ar goll
Bydd dilyn y camau hyn yn eich helpu i brosesu hysbysu'r heddlu bod eich plentyn ar goll.
Gwiriwch gyda ffrindiau a theulu
Bydd yr heddlu'n gofyn pa gamau rydych chi wedi'u cymryd i ddod o hyd i'ch plentyn. Byddant yn disgwyl eich bod wedi:
- chwilio eich cartref
- galw eu ffrindiau
- galw aelodau eraill o'r teulu
- gwirio'ch ffonau am negeseuon
Rhowch wybod i'r heddlu bod eich plentyn ar goll
Os yw'ch plentyn yn dal ar goll neu os nad yw lle y dylai fod, dylech roi gwybod i'r heddlu ei fod ar goll. Gwnewch hyn drwy ffonio 101. Bydd y gweithiwr sy’n trafod galwadau yn eich cysylltu â'ch gorsaf heddlu leol.
Os oes gennych reswm i gredu bod eich plentyn mewn perygl uniongyrchol, dylech ffonio 999.
Trafodwch eich pryderon am gamfanteisio
Dywedwch wrth yr heddlu am eich pryderon am gamfanteisio ac os ydynt wedi bod ar goll o'r blaen.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, llenwch ffurflen Protocol Philomena am eich plentyn. Gellir llenwi'r ffurflen ar unrhyw adeg, er mwyn i chi allu anfon gwybodaeth am eich plentyn at yr heddlu'n gyflym. Mae’n cynnwys:
- disgrifiad o'ch plentyn
- beth oedd yn ei wisgo
- enwau a manylion cyswllt ffrindiau
- lleoedd y maent yn debygol o ymweld â nhw
Cyfweliadau dychwelyd adref
Dylid cynnal cyfweliadau dychwelyd pan fydd person ifanc yr amheuir ei fod yn cael ei gamfanteisio’n droseddol yn mynd ar goll. Gall rôl yr heddlu atal pobl ifanc rhag ymddiried ynddynt, felly dylai ymarferwyr eraill gynnal cyfweliadau dychwelyd.
Pan fydd eich plentyn yn cael ei ddarganfod, dylai'r heddlu neu weithiwr proffesiynol arall siarad â'ch plentyn. Byddant yn gwirio iechyd a lles eich plentyn.
Byddant hefyd yn ceisio darganfod:
- lle maen nhw wedi bod
- gyda phwy y maent wedi bod
- beth maen nhw wedi bod yn ei wneud
Gall yr heddlu neu weithiwr proffesiynol arall siarad â'ch plentyn yn breifat. Mae hyn er mwyn gwneud i'ch plentyn deimlo'n gyfforddus yn siarad am yr hyn sydd wedi digwydd iddo.
Efallai y bydd eich plentyn yn poeni am sut y byddwch chi'n ymateb i ble mae wedi bod a beth mae wedi bod yn ei wneud. Ceisiwch beidio â chynhyrfu, a thawelwch meddwl eich plentyn.