Tai a'r gyfraith
Mae pwerau a dyletswyddau gweithwyr tai proffesiynol wedi'u nodi mewn canllawiau a deddfwriaeth. Ymhlith y rhain mae:
- Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl 2018
- Deddf Tai 2014
- Housing First for Youth
Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant 2018
Darllenwch ganllawiau’r Adran Addysg ar weithio gyda'n gilydd i ddiogelu plant yn Lloegr.
Deddf Tai (Cymru) 2014
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn dweud bod yn rhaid i awdurdodau lleol atal digartrefedd. Dylen nhw ddarparu gwasanaethau atal i unrhyw un sy’n wynebu risg o golli eu cartref o fewn 56 diwrnod.
Yn ôl Deddf Tai (Cymru) 2014, mae digartrefedd yn mynd y tu hwnt i fod heb lety addas a/neu gysgu allan ar y strydoedd. Mae'n cynnwys pobl sydd dan fygythiad o ddigartrefedd a'r rhai sydd â chartrefi na allant aros ynddynt oherwydd salwch neu ffactorau eraill.
O dan adran 55 Deddf Tai (Cymru) 2014, ystyrir bod pobl ifanc ac oedolion yn ddigartref os na allant ‘gael mynediad' at eu llety. Gall hyn gynnwys llety y mae gwerthwyr cyffuriau wedi’i feddiannu. Yn yr achosion hyn, mae gennych yr hawl i gael cymorth a chefnogaeth.
O dan adran 70 Deddf Tai (Cymru) 2014, mae gennych hawl i gael cymorth brys gyda'ch anghenion materion tai os oes gennych blant dibynnol o dan 18 oed.
Gall pobl ifanc rhwng 18 ac 20 oed gael cymorth brys â'u hanghenion o ran tai os ydyn nhw’n wynebu’r risg o gamfanteisio troseddol, rhywiol neu ariannol, os oes ganddynt brofiad o dderbyn gofal, a'r rhai sydd wedi cael eu cadw yn y ddalfa neu'r rhai sydd wedi cael dedfryd o garchar.
Gall pobl ifanc dros 21 oed gael cymorth brys â’u hanghenion materion tai os yw’r anghenion hyn oherwydd rheswm arbennig, er enghraifft eu bod wedi dioddef trais neu eu bod wedi cael eu camdrin a lle y byddai'r risg hon yn parhau pe byddent yn dychwelyd gartref.
O dan adran 81 Deddf Tai 2014, mae'n rhaid i chi fod â chysylltiad â'r ardal leol yr ydych am fyw ynddi. Mae hyn yn cynnwys byw yn yr ardal neu fod wedi byw yno yn y gorffennol, gweithio yn yr ardal, bod â theulu'n byw yn yr ardal, neu fod â chysylltiad â'r ardal oherwydd amgylchiadau arbennig.