Ewch i’r prif gynnwys

Saith cam at asesu

Mae dyletswydd ar ymarferwyr i roi gwybod os oes ganddynt bryderon am ddiogelwch neu les person ifanc.

Bydd Gwasanaethau Plant yn addasu'r atgyfeiriad yn dibynnu ar anghenion y person ifanc. Fel arfer, bydd y broses atgyfeirio ac asesu yn dilyn saith cam:

  1. Atgyfeirio
  2. Rhan 21 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  3. Adran 47 Deddf Plant 1989.
  4. Penderfyniadau Adran 47
  5. Cynhadledd achos gychwynnol
  6. Canlyniadau’r gynhadledd achos gychwynnol
  7. Cofrestr Amddiffyn Plant

Y saith cam yn fanwl

1. Atgyfeirio

Cynhelir trafodaeth gychwynnol i benderfynu ar y perygl ar unwaith. O dan Bwerau Amddiffyn yr Heddlu, gallant dynnu person ifanc allan o’i llety am 72 awr os ydynt yn amau bod y person ifanc hwnnw mewn perygl o niwed sylweddol. Gall yr awdurdod lleol wneud cais i symud y person ifanc am 7 diwrnod o dan Orchymyn Amddiffyn Brys (EPO).

2. Rhan 21 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i asesu anghenion y person ifanc os yw'n ymddangos bod angen cymorth ychwanegol arnynt, ac mae'r anghenion hyn yn fwy nag y gall y teulu ei gefnogi ar ei ben ei hun.

3. Adran 47 Deddf Plant 1989.

Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ymchwilio os yw'n ymddangos bod y person ifanc yn dioddef niwed sylweddol. Mae ymholiadau Adran 47 (S47) yn cynnwys cyfarfod amlasiantaeth neu drafodaeth strategaeth, wedi'i harwain gan egwyddorion Protocolau Cymru ar gyfer Diogelu Plant.

4. Penderfyniadau Adran 47

Mae tri phenderfyniad posibl:

  1. Dim camau pellach (NFA).
  2. Cynllun gofal a chymorth i fynd i'r afael â holl anghenion y person ifanc.
  3. Cynhadledd Achos Gychwynnol os yw'r person ifanc mewn perygl o niwed difrifol.

5. Cynhadledd Achos Gychwynnol

Nod y Gynhadledd Achos Gychwynnol yw asesu'r tebygolrwydd y bydd y person ifanc yn parhau i ddioddef niwed sylweddol. Dylai aelodau'r teulu, eiriolwyr ac ymarferwyr mynd i’r gynhadledd.

6. Canlyniadau’r cynhadledd achos gychwynnol

Mae tri phenderfyniad posibl:

  1. Dim camau pellach (NFA).
  2. Nid yw'r person ifanc mewn perygl, ond efallai y bydd ganddynt anghenion gofal a chymorth.
  3. Mae'r person ifanc mewn perygl, a rhoddir cynllun gofal a chymorth ar waith.

7. Cofrestr Amddiffyn Plant

Os bernir bod y person ifanc mewn perygl sylweddol, caiff ei enw ei ychwanegu at y gofrestr amddiffyn plant, ac ysgrifennir cynllun amddiffyn plant ar eu cyfer.