Ewch i’r prif gynnwys

Dyletswyddau cyfreithiol gwasanaethau plant

Mae gan timau Gwasanaethau Plant mewn awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel.

Mae eu pwerau a'u dyletswyddau wedi'u hamlinellu yn y canlynol:

  • Deddf Plant 1989
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  • Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan (2019).

Deddf Plant 1989

Mae Deddf Plant 1989 yn nodi mai'r teulu sy'n gofalu orau am bobl ifanc, pan fo’n ddiogel gwneud hynny; a lles y person ifanc sydd o'r pwys mwyaf. Er bod y rhan fwyaf o Ddeddf Plant 1989 yn berthnasol i Gymru, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Llesiant (Cymru) 2014 yn disodli rhan tri, sy’n ymwneud â chymorth o awdurdodau lleol i blant a theuluoedd ac adrannau 22 a 23 sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal.

Mewn perthynas â chamfanteisio troseddol ar blant, mae rhan pump, sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, yn dweud bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ymchwilio i achosion os credir bod person ifanc mewn perygl o niwed. Yn yr achosion hyn, dylai'r awdurdod lleol asesu a oes angen iddynt gefnogi'r teulu neu a ddylent gymryd camau i amddiffyn y person ifanc.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Plant 1989.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (SSWBA, 2014)

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ystyrir bod person ifanc mewn perygl os oes ganddo anghenion gofal a chymorth, ni waeth a ydynt yn cael eu diwallu neu beidio, a'i fod yn ymddangos ei fod mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.

Mae adran 130 o Ddeddf Llesiant Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 yn datgan bod dyletswydd ar bob gweithiwr proffesiynol i roi gwybod am bryderon ynglŷn â diogelwch neu lesiant person ifanc. Dylai fod gan bob asiantaeth Arweinydd Diogelu Dynodedig (DSL) a fydd yn cynnig help ac arweiniad i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Os oes pryderon gan rieni, gofalwyr neu oedolion eraill, gallant roi gwybod i'w Gwasanaethau Plant lleol neu gallant ffonio 101. Os yw plentyn neu berson ifanc mewn perygl ar unwaith, ffoniwch yr heddlu ar 999.

Gall rhieni, gofalwyr neu oedolion eraill hefyd drafod eu pryderon gyda'r NSPCC dros y ffôn ar 0808 800 5000 (ar agor 08:00-22:00 yn ystod yr wythnos, a 09:00-18:00 ar benwythnosau). Gallwch hefyd ebostio: help@nspcc.org.uk.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014