Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau Plant a'ch Plentyn

Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru adran Gwasanaethau Plant sy'n gyfrifol am wella'r canlyniadau i blant a phobl ifanc sydd angen gofal a chymorth.

Os ydych chi, athro/athrawes, yr heddlu neu weithiwr proffesiynol arall yn credu bod eich plentyn yn cael ei gamfanteisio'n droseddol, dylech chi neu nhw gysylltu â'r Gwasanaethau Plant. Mae gan Gwasanaethau Plant ddyletswydd gyfreithiol i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel.

Os oes pryderon am les plentyn, mae'n rhaid i'r Gwasanaethau Plant gynnal asesiad i geisio canfod beth sy'n digwydd.

Asesiadau Gwasanaethau Plant

Mae Deddf Llesiant Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 yn dweud y dylai'r broses asesu fod yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i'r plentyn a'i deulu. Dylai'r asesiad ystyried cryfderau'r plentyn a'r teulu, pa gymorth presennol y maent yn ei dderbyn a pha gymorth sydd ei angen ar y teulu.

Rhagor o wybodaeth am Gwasanaethau Plant a'u cyfrifoldebau cyfreithiol i'ch plentyn.

Siarad â Gwasanaethau Plant

Efallai y bydd gan rai gweithwyr proffesiynol wybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig o gamfanteisio’n droseddol ar blant.

Gall hyn fod yn rhwystredig pan fyddwch chi'n poeni am yr hyn sy'n digwydd i'ch plentyn. Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol.

Dewch o hyd i enwau, rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'ch plentyn. Cadwch gofnod o amseroedd cyfarfodydd. Efallai y bydd yn ddefnyddiol gwneud nodiadau cyn unrhyw gyfarfodydd am yr hyn yr hoffech ei ddweud. Gallwch fynd â'r nodiadau hyn gyda chi i'ch cyfarfodydd.

Dylech hefyd wneud nodiadau mewn cyfarfodydd ynghylch pa gamau gweithredu y cytunwyd arnynt, yr amserlen, a phwy sy'n gyfrifol am gyflawni pob cam gweithredu.

Cyfrannu at yr asesiad

Os ydych wedi bod yn cadw cofnod o ddigwyddiadau, dylid rhoi hyn i'r Gwasanaethau Plant fel bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud asesiad.

Dylai’r cofnod cynnwys enwau ffrindiau neu bobl y mae eich plentyn yn siarad amdanyn nhw, tocynnau bws neu drên ar gyfer teithiau anarferol neu annisgwyl, a rhifau cofrestru ceir. Mae hyn yn helpu i greu darlun o'r hyn sy'n digwydd a thystiolaeth y gellir ei defnyddio i ddangos bod eich plentyn yn cael ei gamfanteisio'n droseddol.

Dylech ddweud wrthynt am eich pryderon ac unrhyw arwyddion rhybuddio yr ydych wedi sylwi arnynt.