Canolfan Datblygu Merched y De (Pêl-droed)
Fel rhan o Lwybr Datblygu Chwaraewyr Benywaidd CPDC, nod Canolfan Datblygu Merched y De yw cefnogi a datblygu chwaraewyr benywaidd i camu ymlaen i thimau Academi Merched De Cymru CPDC a thimau merched cenedlaethol ieuenctid ac oedolion Cymru.
Mae Canolfan Datblygu Merched y De yn un o 8 Canolfan Perfformiad Cymdeithas Pêl-droed Cymru ledled Cymru, i gyd wedi'u halinio i ddatblygu chwaraewyr benywaidd yn 'y ffordd Gymreig'. Ar gyfer tymor 2023 – 2024 bydd y rhaglen yn cefnogi datblygiad chwaraewyr ar draws blynyddoedd 4 i 11.
Rydym yn falch o barhau gyda'n partneriaeth gydag CPDC yn goruchwylio Canolfan Datblygu Merched y De. Rydym yn falch o barhau i weithio gyda Chymdeithas Pêl-droed De Cymru a Chynghrair Menywod a Merched De Cymru i sicrhau bod chwaraewyr benywaidd yn ne Cymru yn cael cyfle i gyflawni eu llawn botensial.
Llwybr Ddatblygu Merched CPDC 2024 - 2025
Mae'r camau isod yn amlygu rôl Canolfannau Datblygu o ran y llwybr ddatblygu chwaraewyr merched o Dan 9 i Dan 16.
Cam 1 | Mae chwaraewyr yn cyfranogi dros ei chlybiau. |
---|---|
Cam 2 | Mae gwahoddiad i glybiau i enwebu chwaraewyr talentog i fynychu digwyddiadau ID Talent y Canolfannau Datblygu. Mae'n bosib y bydd chwaraewyr sy'n dod i'n digwyddiadau'n cael eu dewis ar gyfer tîm Canolfan Ddatblygu Merched y De. |
Cam 3 | Mae'n bosibl y bydd chwaraewyr oed ysgol uwchradd sy'n rhagori yn y Ganolfan Ddatblygu Merched y De camu ymlaen yn y llwybr a chael gwahoddiad i ymuno â thimau Academi Merched De Cymru CPDC Dan 14 a Dan 16 sy'n chwarae yn rhaglen gemau Academi drwyddedig Cymru. |
Cam 4 | Mae cyfleoedd i chwaraewyr eithriadol yn y llwybr cael ei ddewis ar gyfer sgwadiau ieuenctid cenedlaethol Cymru 'Cymru Dan 15 - Dan 19'. |
Digwyddiadau Adnabod Talent ac enwebiadau
Mae ein tudalen adnabod talent cyn tymor 2024 - 2025 bellach ar agor. Mae'r holl fanylion wedi'u rhannu gyda holl ysgrifenyddion clybiau SWWGL a SWFA gan gynnwys dolen i enwebu chwaraewyr dawnus. Dylai chwaraewyr sydd â diddordeb mewn mynychu ein digwyddiadau adnabod talent gysylltu â'u clwb yn uniongyrchol i drafod enwebiad.
Mae ein digwyddiadau ID Talent yn cael eu cynnal yn flynyddol, gydag unrhyw chwaraewr benywaidd sy'n byw ac yn cymryd rhan mewn pêl-droed benywaidd neu gymysg (bechgyn) yn rhanbarth De Cymru yn gymwys i fynychu ar ôl cael ei enwebu gan eu clwb. Mae'n ofynnol i glybiau enwebu chwaraewyr trwy'r porth enwebu cyn ein digwyddiadau. Dylai chwaraewyr sydd â diddordeb mewn mynd i’n canolfan gysylltu â'u clwb i drafod enwebiad.
Hyfforddiant a digwyddiadau
Bydd chwaraewyr a ddewisir ar gyfer Canolfan Datblygu Merched y De yn mynychu hyfforddiant wythnosol ar y cae 3G ar Caeau Chwaraeon Prifysgol Caerdydd. Mae'r tymor yn digwydd dros bum bloc fel arfer rhwng Medi a Mai.
Mae gemau cystadleuol yn digwydd yn ystod pob bloc yn erbyn Canolfannau Datblygu CPDC eraill, timau genethod llwybr yn Lloegr ac academïau bechgyn yng Nghymru. Mae'r gemau hyn yn gyfle ychwanegol i weithio ar bynciau sy'n cael sylw yn y sesiynau hyfforddi wythnosol, gyda'r pwyslais yn cael ei roi ar ddatblygiad chwaraewyr yn hytrach na’r canlyniadau.
Datblygiad
Mae cyfleoedd i chwaraewyr oed ysgol uwchradd sy'n rhagori yng Nghanolfan Datblygu Merched y De cael eu henwebu gan ein hyfforddwyr i gamu ymlaen ymhellach yn y llwybr a mynychu sesiynau carfan Dan 14 a Dan 16 Academi Merched y De CPDC.
Mae aelodau'r sgwad yn derbyn amser cyswllt wythnosol gyda hyfforddwyr llwybr CPDC o safon. Y ffocws allweddol i'n hyfforddwyr yw datblygu chwaraewyr, gyda sesiynau'n canolbwyntio ar sgiliau technegol ac elfennau tactegol chwarae. Mae chwaraewyr hefyd yn elwa ar gynlluniau datblygu unigol a chymorth gwyddoniaeth chwaraeon.
Mae sesiynau Canolfan Datblygu Merched y De yn ychwanegol i gyfranogiad chwaraewyr yn eu clybiau.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth: